- Am bobl eraill o'r un enw gweler
Apollodorus
ac
Apollodorus (gwahaniaethu)
.
Pensaer
Groegaidd
o ddinas
Damascus
a fu'n gyfrifol am sawl gwaith pensaerniol yn
Rhufain
yn amser yr ymerawdwr
Trajan
oedd
Apollodorus o Ddamascus
(bu farw
129
OC).
Cafodd ei eni yn Damascus. Symudodd i weithio yn Rhufain lle daeth yn brif bensaer yr ymerawdwr Trajan. Cynlluniodd
Fforwm Trajan
,
Cofgolofn Trajan
a gweithiau eraill, ac ef hefyd a gynlluniodd y
Pantheon
, yn ol pob tebyg. Ond syrthiodd dan wg yr ymerawdwr
Hadrian
, olynydd Trajan. Cafodd ei
alltudio
ganddo ac yn 129 OC fe'i dienyddwyd.
Mae ei draethawd ar beiriannau rhyfel, wedi ei chyflwyno i Hadrian, wedi goroesi.