Aneurin Bevan
|
---|
|
Ganwyd
| 15 Tachwedd 1897
Tredegar
,
Cymru
|
---|
Bu farw
| 6 Gorffennaf 1960
Asheridge Farmhouse
|
---|
Dinasyddiaeth
|
Cymru
|
---|
Alma mater
| - Y Coleg Llafur Canolog
|
---|
Galwedigaeth
| gwleidydd
, undebwr llafur
|
---|
Swydd
| Deputy Leader of the Labour Party, Secretary of State for Employment, Ysgrifennydd Tramor yr Wrthblaid,
Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd
, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig
|
---|
Plaid Wleidyddol
| y Blaid Lafur
|
---|
Priod
| Jennie Lee
|
---|
Cymro a gwleidydd Llafur oedd
Aneurin 'Nye' Bevan
(
15 Tachwedd
1897
-
6 Gorffennaf
1960
). Bu'n
aelod seneddol
dros y
Blaid Lafur
, yn etholaeth
Glynebwy
o
1929
tan
1960
. Roedd yn arwr i'r chwith gwleidyddol, yn arbennig am ei weithgarwch yn sefydlu y
Gwasanaeth Iechyd Gwladol
(GIG). Roedd yn areithiwr huawdl iawn er fod ganddo atal dweud pan yn ifanc. Fe ddaeth yn gyntaf mewn
arolwg
o arwyr Cymru.
Ganwyd Bevan yn
Nhredregar
yn fab i lowr a
Bedyddiwr
, David Bowen. Roedd ei fam yn Fethodist. Yn un o ddeg o blant ni chafodd fawr o lwyddiant yn yr ysgol. Yn dair ar ddeg oed aeth i weithio yn y pwll glo lleol. Rhyddfrydwr oedd ei dad pan yn ifanc ond yn ddiweddarach ymunodd a'r Blaid Lafur Annibynnol.
Roedd
etholiad cyffredinol 1945
yn llwyddiant ysgybol i'r Blaid Lafur, gan eu galluogi i greu diwygiad cymdeithasol.
Clement Attlee
oedd y
Prif Weinidog
newydd, ac fe apwyntiodd Aneurin Bevan yn Gweinidog Iechyd. Fe'i heriwyd i greu Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a arianwyd gan drethi, er mwyn darparu gwasanaeth safonol i'r boblogaeth am ddim. Daeth y Gwasanaeth i fodolaeth ar y
5 Gorffennaf
,
1948
. Fe wladolwyd 2,688 o ysbytai yng Nghymru a Lloegr, a daethant dan orychwyliaeth Bevan. Ar yr un pryd, roedd yn gyfrifol am dai - a oedd yn bwnc problemus yn sgil dinistr yr
Ail Ryfel Byd
.
Yn
1951
, fe'i ostyngwyd i fod yn Weinidog Llafur, ond yn fuan iawn fe ymddiswyddodd mewn safiad yn erbyn cyflwyniad taliadau presgripsiwn ar gyfer
dentyddiaeth
a
sbectol
.