Anheddiad
gwladychol Iseldiraidd
o'r
17g
a weithredai fel prifddinas
Iseldir Newydd
oedd
Amsterdam Newydd
. Yn ddiweddarach, datblygodd i fod yn
Ddinas Efrog Newydd
.
Lleolwyd yr anheddiad, a oedd tu allan i
Gaer Amsterdam
ar
Ynys Manhattan
yn yr Iseldir Newydd, rhwng 38 a 42 gradd lledred ac roedd yn estyniad o'r
Weriniaeth Iseldiraidd
o 1624 ymlaen. Wedi'i leoli ar ben deheuol ynys Manhattan, roedd yn safle strategol, a'i nod oedd i amddiffyn
diwydiant ffwr
y
Cwmni Unedig India'r Dwyrain
yn Afon y Gogledd. Gwnaed Caer Amsterdam yn brifddinas y dalaith yn 1625.