Deg
amrywiad
ar hugain ar thema wreiddiol ar gyfer harpsicord dau seinglawr, gan
Johann Sebastian Bach
, yw
Amrywiadau Goldberg
, BWV 988. Fe'u cyhoeddwyd yn
Nurnberg
yn ystod oes y cyfansoddwr, yn 1741, fel Rhan IV o'i
Clavier-Ubung
.
[1]
Daw'r llysenw "Goldberg" o'r chwedl, y tybir bellach, nad yw'n wir, iddynt gael eu comisynu gan lysgennad Rwsia i Sacsoni,
Iarll Keyserling
, a oedd yn dioddef o anhunedd, er mwyn i'r harpsicordydd
Johann Gottlieb Goldberg
eu chwarae i'w ddiddanu yn ystod ei nosweithiau di-gwsg.
Sarabande
mewn dwy adran gytbwys yw'r thema, neu "Aria", a chedwir y bas a'r stwythur harmonig ar eu hyd yn yr holl 30 amrywiad sy'n dilyn. Daw'r amrywiadau yr Aria bob yn dri, yr olaf o bob tri yn ganon. Mae'r canonau yn dilyn ei gilydd ar gyfyngau cynyddol o'r unsain i'r nawfed. Mae'r un olaf yn
Quodlibet
, sy'n cyflwyno dau alaw boblogaidd yn wrthbwynt dros yr harmoniau.
Mae'r gwaith yn un sylweddol, gyda hyd o 60 i 80 munud, os caiff ei berfformio gyda'r holl ailadroddiadau.
- ↑
Clavier Ubung / bestehend / in einer ARIA / mit verschiedenen Verænderungen / vors Clavicimbal / mit 2 Manualen. / Denen Liebhabern zur Gemuths- / Ergeizung verfertiget von / Johann Sebastian Bach / Konigl. Pohl. u. Churfl. Sæchs. Hoff- / Compositeur, Capellmeister, u. Directore / Chori Musici in Leipzig. / Nurnberg in Verlegung / Balthasar Schmids