한국   대만   중국   일본 
Americanwyr Iddewig - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Americanwyr Iddewig

Oddi ar Wicipedia
Map o boblogaeth yr Americanwyr Iddewig yn nechrau'r 21g yn ol talaith.

Y rhan o boblogaeth Unol Daleithiau America sydd yn Iddewon ethnig, yn gredinwyr Iddewiaeth , neu fel arfer yn uniaethu a'r genedl neu ddiwylliant Iddewig yw'r Americanwyr Iddewig neu Iddewon Americanaidd . [1] Heddiw, Ashcenasim ydy'r gymuned Iddewig yn yr Unol Daleithiau yn bennaf, sydd yn disgyn o'r Iddewon ar wasgar a ymfudasant o Ganolbarth a Dwyrain Ewrop ac sydd yn cyfri am 90?95% o boblogaeth yr Americanwyr Iddewig. [2] [3] Ganed y mwyafrif o Ashcenasim Americanaidd yn yr Unol Daleithiau, a llai a llai ohonynt yn fewnfudwyr. Yn ystod yr oes drefedigaethol, cyn i'r Ashcenasim ymfudo ar raddfa enfawr, Iddewon o Benrhyn Iberia oedd yn cyfri am y rhan fwyaf o boblogaeth Iddewig yr Unol Daleithiau.

Gweler hefyd [ golygu | golygu cod ]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. Sheskin, Ira M. (2000). "American Jews" . In McKee, Jesse O. (gol.). Ethnicity in Contemporary America: A Geographical Appraisal . Lanham, Md.: Rowman & Littlefield. t. 227. ISBN   978-0-7425-0034-1 . [The 1990 National Jewish Population Survey] showed that only five percent of American Jews consider being Jewish solely in terms of being a member of a religious group. Thus, the vast majority of American Jews view themselves as members of an ethnic group and/or a cultural group, and/or a nationality.
  2. "More Ashkenazi Jews Have Gene Defect that Raises Inherited Breast Cancer Risk" . The Oncologist 1 (5): 335. 1996 . http://theoncologist.alphamedpress.org/content/1/5/335.full . Adalwyd 8 November 2013 .
  3. "First genetic mutation for colorectal cancer identified in Ashkenazi Jews" . The Gazette . Newfoundland . Cyrchwyd 10 September 2013 .

Darllen pellach [ golygu | golygu cod ]

  • A. Hertzberg, The Jews in America (Efrog Newydd: Simon & Schuster, 1989).
  • H. Sachar, A History of the Jews in America (Efrog Newydd: Random House. 1992).
  • E. Shapiro, A Time for Healing (Baltimore: The Johns Hopkins University Press, 1992).