Y gelfyddid o drin y tir i gynhyrchu
bwyd
neu rhyw
nwyddau
eraill yw
amaeth
neu
amaethyddiaeth
. Gelwir y weithred o wneud hyn yn 'amaethu' neu '
ffermio
'. Dyma'r dechneg o dyfu
planhigion
megis
llysiau
neu
ffrwythau
, a rheoli, amddiffyn a bridio preiddiau o
anifieliaid
er mwyn cael cynnyrch megis
cig
,
llaeth
,
gwlan
neu
ledr
.
Roedd amaethu'n ddatblygiad allweddol yn nhwf gwareiddiad gan fod medru darparu bwyd yn rhyddhau
pobl
i ymhel a thechnolegau newydd, diwylliant ayb. Datblygiad o hyn oedd y
Chwyldro Diwydiannol
a ryddhaodd bobl ymhellach o fod yn gaeth i amaethu i wneud pethau eraill. Cyn y Chwyldro Diwydiannol, roedd mwyafrif llethol o bobl yn amaethwyr, gyda math o fodolaeth hunan-gynhaliol o dyfu planhigion ac anifeiliaid i'r teulu'n unig yn hytrach na'u gwerthu am arian. Yng Nghymru, gwelwyd effaith hyn yn bennaf ar ddau fath o ffermwr: y ffermwyr godro a drodd i werthu llaeth a'r ffermwyr defaid a ddechreuodd farchnata gwan.
Mae'n ymddangos mai yn y
Cilgant Ffrwythlon
, sef y tiroedd sy'n ymestyn o
Balesteina
drwy ogledd
Syria
,
Irac
,
Cyrdistan
ac i lawr afonydd y
Tigris
a'r
Ewffrates
i for
Gwlff Arabia
, y cychwynodd amaeth a hynny tua 11,500
CP
. Roedd y tir hwn yn llawer mwy ffrwythlon nag ydy heddiw. Ceir tystiolaeth fod
barlys
,
gwenith
a
lentils
a fridiwyd ar gyfer y bwrdd bwyd yn cael ei dyfu 9,800 o flynyddoed yn ol.
[1]
Wrth gwrs, mae'n ddigon posib i hyn ddigwydd mewn sawl lle yn annibynnol o'i gilydd tua'r un amser e.e. yn ne
Tsieina
,
Sahel
yn
Affrica
ac yn
Gini Newydd
. Roedd
Oes yr Ia
'n dal i afael yn y tir ond roedd y glawiad yn llawer mwy ffafriol na'r hyn a geir heddiw, ac yn cynnal coedwigoedd a thiroedd agored fel y'i gilydd.
Erbyn tua 10,000 CP dofwyd sawl math o anifail gwyllt. Roedd y bual (neu'r fuwch) wyllt yn greadur peryglus, fel y mochyn gwyllt hwnnw a ddisgrifir yn
Culhwch ac Olwen
. Ni ddofwyd y cwbwl ac anodd yw meddwl fod pob buwch dan haul wedi tarddu o'r bualod gogleddol hyn (y
buffalo
). Drwy reoli ac amddiffyn preiddiau, gwelwyd newid sylweddol yn y ffordd roedd pobl yn byw a daeth cynnydd yn y boblogaeth. Erbyn tua 9,000 gwelwyd pobl yn dod at ei gilydd a gwelir strwythur i'r amaethyddiaeth gyntefig hwn: caeau, cloddiau, ffosydd amddiffynnol a phentrefi. Ymhlith yr olion y mae: Jarma, Irac a Jerico ym Mhalesteina. Gelwir y cyfuniad hwn o dyfu cnydau a magu anifeiliaid dof yn 'Chwyldro Neolithig'.
Erbyn 6,500 CC roedd amaethu wedi cyrraedd de-ddwyrain
Ewrop
, ac erbyn tua 3,000 CC, fel y dengys lluniau a cherfiadau'r cyfnod, gwelwn fod teirw'n tynnu
ceir llusg
, gwartheg yn cael eu bwydo gan ddyn ac eraill yn cael eu godro. O'r ddafad
moufflon
mae defaid Ewrop yn tarddu. Yng nghymuned Argissa yn Thesally,
Gwlad Groeg
, ceir olion yr anifeiliaid dof hyn fel a ganlyn: defaid a geifr (84%), moch (10%), gwartheg (5%) a ch?n (1%).
[2]
Daw'r gair amaeth o'r
Lladin
ambactus sef 'gwas', ond mae'n bosibl mai o'r Hen Gelteg yr aeth i'r Lladin. Fe'i cofnodwyd yn gyntaf yn y
13g
yn
Llyfr Du'r Waun
:
"ni ddylai neb gymryd amayath arno oni heb wneuthur aradr..."
.
[3]
Roedd dyddiau pwysig ar y fferm ers stalwm pan oedd cymdogion yn dod i'r fferm i helpu i gneifio,
dyrnu
,
lladd mochyn
pluo
ac ati, ond erbyn hyn mae peiriannau ar gael i wneud y gwaith a'r elfen gymdeithasol wedi lleihau. Oherwydd mynyddoedd, tywydd ac answadd ei phridd, ychydig iawn o dir sy'n addas ar gyfer cnydau, yn wahanol i Loegr. Canolbwyntiwyd, felly ar gig anifail.
-
Fferm yn
Henllan
, Sir Ddinbych tua 1885
-
Ffermwr a'i faharen tua 1885
-
Tarw Dolwilym,
Cilymaenllwyd
tua 1885
-
Gwedd o geffylau'n tynnu'r aradr
-
Peiriant i dorri'r gwair, tua 1885
-
Tyddyn bychan yn
Llanbedrog
, tua 1885
Daeth Dafydd Whiteside Thomas ar draws y chwe phennill canlynol (dienw) wedi eu teipio ar gefn hen fil cigydd o Gaernarfon tua’r 1940au. Yn anffodus, roedd y pennill cyntaf ar goll.
- Saith Rhyfeddod
- Mi glywais ddwedyd fod y petris
- Ar fin y traeth yn chwarae tennis,
- A'u bod yn gwneud eu peli o dywod
- A dyna ddau o'r saith rhyfeddod.
- Mi glywais ddwedyd fod y cryman
- Mewn cae o haidd yn medi ei hunan,
- A'i fod yn torri cefn mewn diwrnod
- A dyna dri o'r saith rhyfeddod.
- Mi glywais ddweyd fod pysgodyn
- Yn cadw ty mewn twmpath eithin,
- Ac yno'n byw ers pedwar diwrnod
- A dyna bedwar o'r saith rhyfeddod.
- Mi glywais ddwedyd fod y mochyn
- Ar ben y car yn llwytho rhedyn,
- A'i fod yn gwneud ei Iwyth yn barod
- A dyna bump o'r saith rhyfeddod.
- Mi glywais ddwedyd fod y ceiliog
- Ar Graig y Llan yn hela sgwarnog,
- A'i fod yn dala dwy mewn diwrnod
- A dyna chwech o'r saith rhyfeddod.
- Mi glywais ddwedyd fod y wennol
- Ar For y De yn gosod pedol
- A'i morthwyl aur, a'i hengan arian,
- A dyna'r saith rhyfeddod allan.
Mae'r penillion yn mynd a ni'n ol i oes amaethyddol go wahanol. Faint o ffermwyr sy'n 'torri cefn' erbyn heddiw, neu hyd yn oed yn tyfu haidd? Ac er fod llawer o ladd a thorri rhedyn yn dal i ddigwydd, ychydig iawn sy'n ei gasglu ar gar neu drol”.
[4]