Altocumulus

Oddi ar Wicipedia
Altocumulus
Enghraifft o'r canlynol genera cwmwl  Edit this on Wikidata
Math Cwmwlws , mid-level cloud  Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ffurfiad cwmwl Altocumulus

Ffurfia'r altocumulus yn haenau torredig rhwng tua 6,500 a 18,000 troedfedd a cheir sawl math ohonynt. Un o'r ffurfiau mwyaf cyffredin yw nifer fawr o gymylau bychain crwn sydd bron a chyffwrdd ei gilydd, fel praidd o ddefaid yn llenwi'r awyr :

Disgrifiad [ golygu | golygu cod ]

Gwasgarir y cymylau Altocumulus un ai yn ddi-batrwm fel praidd o ddefaid yn weddol glos at ei gilydd, neu yn rhesi cyfochrog taclus a ddisgrifir fel 'defaid yn dilyn eu llwybrau'. Gall y cymylau hyn ddwysau nes i'r defaid unigol yn y rhesi glosio a chyffwrdd ei gilydd a chreu llinellau neu resi amlwg, tebyg i'r patrwm rhesog o grychau a welir ar dywod y traeth ar drai. Bryd hynny fe'u gelwir, yn 'draeth awyr' neu 'awyr draeth'. Ar yr uchder canolig hwn (6,500' ? 18,000') bydd y llinellau yn weddol fras o'u cymharu a math tebyg ei olwg o draeth awyr a welir yn llawer uwch yn yr awyr (Cirrocumulus) sydd, oherwydd ei uchder, a'i resi yn ymddangos yn gul.

Dywediadau [ golygu | golygu cod ]

Dywediadau cyffredin am y patrwm rhesog hwn, boed uchel neu isel, yw:

  • Traeth awyr ? glaw drannoeth.
  • Cymylau fel defaid Jeriwsalem ? cawodydd ( Cwm Gwendraeth )
  • Defaid Jacob ? cawodydd ( Cwm Tawe ). Defaid Jacob am eu bod yn ddeuliw, sef yn dywyll ar eu hochr gysgodol a gwyn yn wyneb yr haul .

Galeri [ golygu | golygu cod ]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias . Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn Llen Gwerin (Cymdeithas Edward LLwyd).