Mae
aAlopwrinol,
a werthir oddi tan yr enw masnachol
Zyloprim
ac eraill, yn
feddyginiaeth
a ddefnyddir i leihau lefelau uchel o
asid wrig
yn y gwaed.
[1]
Fe'i defnyddir yn benodol er mwyn atal
gowt
, mathau penodol o gerrig yn yr arennau, ac ar gyfer lleihau lefelau uchel o asid wrig wedi triniaeth
cemotherapi
.
[2]
Gellir ei gymryd drwy'r geg neu ei chwistrellu i mewn i
wythien
.
[3]
Pan gymerir y feddyginiaeth drwy'r geg y mae ei sgileffeithiau cyffredin yn cynnwys
brech
ac ymdeimlad o gosi. Wrth ei ddefnyddio ar ffurf pigiad, gall arwain at sgil effeithiau megis
chwydu
a phroblemau ynghylch yr
arennau
. Er yn hanesyddol na argymhellwyd y feddyginiaeth, mae dechrau rhaglen alopwrinol yn ystod ymosodiad o gowt yn ymddangos yn effeithiol.
[4]
Dylai'r rheini sydd eisoes ar y feddyginiaeth barhau i'w ddefnyddio. Er ni cheir awgrymiadau bod y fath driniaeth yn niweidiol yn ystod
beichiogrwydd
, mae'r ymchwil ynghylch y maes yn anfoddhaol.
[5]
Mae alopwrinol ymhlith y teulu o feddyginiaethau ataliol santhin ocsidas.
Cymeradwywyd Alopwrinol ar gyfer defnydd meddygol yn yr
Unol Daleithiau
ym 1966. Mae ar
Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd
, sef cofnod o'r meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.
[6]
Gellir cael mynediad i alopwrinol fel meddyginiaeth generig. Ei gost gyfanwerthol fisol yn y byd datblygol yw oddeutu 0.81 i 3.42 o ddoleri.
[7]
Yn yr Unol Daleithiau, mae mis o driniaeth wedi'i brisio'n llai na 25 o ddoleri.
[8]