Allen Ginsberg
|
---|
|
Ganwyd
| Irwin Allen Ginsberg
3 Mehefin 1926
Paterson, New Jersey
,
Newark, New Jersey
|
---|
Bu farw
| 5 Ebrill 1997
o
canser yr afu
Dinas Efrog Newydd
, East Village
|
---|
Man preswyl
| Paterson, New Jersey
, East Village
|
---|
Label recordio
| Transatlantic Records
|
---|
Dinasyddiaeth
| Unol Daleithiau America
|
---|
Alma mater
| |
---|
Galwedigaeth
| dramodydd
,
bardd
,
ysgrifennwr
, hunangofiannydd,
sgriptiwr
,
cerddor
,
athro
, ffotograffydd, dyddiadurwr
|
---|
Cyflogwr
| - Coleg Brooklyn
|
---|
Adnabyddus am
| Howl
|
---|
Arddull
| spoken word
|
---|
Mudiad
| Cenhedlaeth y Bitniciaid
, confessional poetry
|
---|
Tad
| Louis Ginsberg
|
---|
Partner
| Peter Orlovsky
|
---|
Gwobr/au
| Cymrodoriaeth Guggenheim
, Gwobr Cenedlaethol y Llyfr, Gwobr Heddwch Cynghrair Atal Rhyfel, Gwobr Llyfr Cenedlaethol am Farddoniaeth, Medal Robert Frost, Torch Aur
|
---|
Gwefan
| https://allenginsberg.org
|
---|
llofnod
|
---|
Delwedd:Allen Ginsberg signature.svg, Signature detail, Allen Ginsberg - Cosmopolitan Greetings (cropped).JPG
|
Bardd
Americanaidd
oedd
Irwin Allen Ginsberg
(yngenir/???nzb?r?/) (
3 Mehefin
1926
?
5 Ebrill
1997
). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei gerdd '
Howl
' (1956), a ddathlai ei ffrindiau a oedd yn aelodau o
Genhedlaeth y Bitniciaid
ac yn beirniadu'r hyn yr ystyriai fel grymoedd dinistriol materoliaeth a chydymffurfiaeth yn yr Unol Daleithiau.
Fel nifer o'r ysgrifenwyr 'Beat' eraill, parhaodd ei ddylanwad trwy gyfnod gwrth-ddiwylliant y 60au a 70au gan ddod yn arwr i lawer o ysgrifenwyr, beirdd a cherddorion heddiw.
[1]
[2]
[3]
[4]
Ganwyd Allen Ginsberg i deulu
Iddewig
yn Newark,
New Jersey
, ac wedyn bu'n fyw fel plentyn yn nhref Paterson gerllaw. Yn ei arddegau ysgrifennodd llythyron i'r
New York Times
am faterion gwleidyddol a hawliau gweithwyr. Tra yn yr ysgol uwchradd dechreuodd darllen llyfrau
Walt Whitman
.
[5]
Yn ol y
The Poetry Foundation
, treuliodd Ginseberg rhai misoedd mewn ysbyty meddwl wedi iddo bledio'n wallgof mewn achos llys ar gyhuddiad o gael eiddo wedi'i dwyn.
[6]
Yn ei flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Colombia cyflwynodd Ginsberg gan ei gyd-fyfyriwr Lucien Carr i nifer o ysgrifenwyr ifanc arbrofol yn cynnwys
Jack Kerouac
a
William S. Burroughs
. Fel rhan o'r gr?p yma fe ddaeth Ginsberg i fod yn un o sylfaenwyr y mudiad llenyddol avant garde
Beat.
Datblygodd y beirdd ac ysgrifenwyr
Beat
arddull newydd o ysgrifennu gan dorri'n rhydd o gyfyngiadau a chonfensiynau bywyd Americanaidd y cyfnod.
Mewn fflat yn
Harlem
(ardal Affro-Americaniadd Efrog Newydd) dywedodd Ginsberg wrtho gael ei
Weledigaeth Blake
? gan fynnu iddo glywed llais Duw wrth ddarllen gwaith y bardd
William Blake
. Wedyn eglurodd ni fu'r weledigaeth yn ganlyniad i ddefnyddio cyffuriau ond roedd am ail-greu'r teimladau trwy arbrofi gyda chyffuriau.
[7]
Symudodd Ginsberg i
San Francisco
ac ym 1954 cyfarfu a Peter Orlovsky (1933?2010), a fu'n bartner iddo hyd ddiwedd ei fywyd.
Ym 1956 cyhoeddwyd ei waith enwocaf y gerdd
Howl
. Cafodd y llyfrau eu cipio gan yr heddlu ym 1957 a bu achos llys i wahardd y gwaith am iddo gynnwys son am gariad
hoyw
ar adeg pab fu'n anghyfreithlon. Bu'r cyhoeddusrwydd i
'Howl'
yn gymorth mawr i ennill diddordeb i'r gwaith a chynyddu gwerthiant..
[1]
- Gwelais feddyliau gorau fy nghenhedlaeth wedi’u dinistrio gan wallgofrwydd
- newynog lloerig noeth
- yn llusgo eu hunain trwy strydoedd duon y wawr yn chwilio am ffics blin
- hipsters pen-angylaidd
ar dan am y cysylltiad nefol hynafol i’r dynamo serennog ym mheirianwaith y nos...
- ...Cyfieithiad llinellau agoriadol
Howl
Ym 1957 symudodd i
Baris
i fyw mewn fflat rhad uwchben bar yn 9 rue Git-le-Coeur. Ymunodd William Burroughs ac ysgrifenwyr
Beat
eraill ac fe enillodd y fflatiau'r enw 'Beat Hotel'. Yma ysgrifennodd Ginseberg ei gerdd epig
Kaddish
. Yn ddiweddarach ymwelodd a William Burroughs yn
Tangiers
,
Moroco
a gyda Jack Kerouac gynorthwyodd Burroughs gyhoeddi ei waith enwog
The Naked Lunch
.
Yn ystod 1962-3 teithiodd Ginsberg ac Orlovsky ar draws India gan fyw yn
Kolkata
(Calcutta) a'r ddinas sanctaidd Benares er awdurdodau India ceisio eu taflu o'r wlad.
Daeth Ginsburg yn
Fwdhydd
ac astudiodd crefyddau dwyreiniol yn frwd. Er yr holl sylw a llwyddiant bu'n byw mewn fflatiau digon syml yn East Village, Efrog Newydd ac yn prynu ei ddillad o siopau ail-law.
[8]
Bu'n rhan o ddegawdau o brotestiadau gwleidyddol di-drais yn erbyn rhyfel
Fietnam
a nifer fawr o achosion eraill. Mae ei gerdd
September on Jessore Road
, yn tynnu sylw i ddioddefaint pobl ffoaduriad
Bangladeshi
. Yn ol y beirniad llenyddol Helen Vendler mae hyn yn nodweddiadol o ymroddiad Ginsberg i wrthwynebu gwleidyddiaeth imperialaidd a gormesi'r difreintiedig.
Er i'w waith cael ei wahardd a bu'n ran o'r is-ddiwylliant a heriodd syniadau poblogaidd y cyfnod erbyn diwedd ei oes bu Allen Ginsberg un o lenorion enwocaf yr iaith Saesneg. Roedd newyddion ei farwolaeth ym 1997 yn newyddion ymhlith prif penawdau yr newyddion a thalwyd teyrngedau llu iddo.
- Howl and Other Poems
(1956)
- Kaddish and Other Poems
(1961)
- Empty Mirror: Early Poems
(1961)
- Reality Sandwiches
(1963)
- The Yage Letters
(1963) ? gyda
William S. Burroughs
- Planet News
(1968)
- First Blues: Rags, Ballads & Harmonium Songs 1971 - 1974
(1975),
- The Gates of Wrath: Rhymed Poems
1948?1951 (1972)
- The Fall of America: Poems of These States
(1973)
- Iron Horse
(1972)
- Sad Dust Glories: poems during work summer in woods
(1975)
- Mind Breaths
(1978)
- Plutonian Ode: Poems 1977?1980
(1981)
- Collected Poems 1947?1980 (1984)
- White Shroud Poems: 1980?1985
(1986)
- Cosmopolitan Greetings Poems: 1986?1993
(1994)
- Howl Annotated
(1995)
- Illuminated Poems
(1996)
- Selected Poems: 1947?1995
(1996)
- Death and Fame: Poems 1993?1997
(1999)
- Deliberate Prose
1952?1995 (2000)
- Howl & Other Poems 50th Anniversary Edition
(2006)
- The Book of Martyrdom and Artifice: First Journals and Poems 1937-1952
- The Selected Letters of Allen Ginsberg and Gary Snyder
- I Greet You At The Beginning of a Great Career: The Selected Correspondence of Lawrence Ferlinghetti and Allen Ginsberg
, 1955-1997
- ↑
1.0
1.1
"Ginsberg, Allen (1926-1997)"
.
glbtq.com
.
Archifwyd
o'r gwreiddiol ar 2007-03-13
. Cyrchwyd
9 Awst
2015
.
- ↑
Ginsberg, Allen (2000),
Deliberate Prose: Selected Essays 1952?1995
. Rhagair gan Edward Sanders (Efrog Newydd: Harper Collins), tt. xx?xxi.
- ↑
de Grazia, Edward
. (1992)
Girls Lean Back Everywhere: The Law of Obscenity and the Assault on Genius
(Efrog Newydd: Random House), tt. 330?31.
- ↑
About Allen Ginsberg
. pbs.org. 29 Rhagfyr 2002
- ↑
Pacernick, Gary. "
Allen Ginsberg: An interview by Gary Pacernick
" (10 Chwefror 1996),
The American Poetry Review
, Jul/Aug 1997. "Yeah, I am a Jewish poet. I'm Jewish."
- ↑
Allen Ginsberg." Allen Ginsberg Biography. Poetry Foundation, 2014. Web. 6 Tachwedd 2014.
- ↑
Miles, Barry (2001),
Ginsberg: A Biography
(London: Virgin Publishing)
- ↑
Ginsberg, Allen (3 Ebrill 2015). "The Vomit of a Mad Tyger". Lion's Roar. Adalwyd 3 Ebrill 2015.