Alistair Horne
|
---|
Ganwyd
| Alistair Allan Horne
9 Tachwedd 1925
Llundain
|
---|
Bu farw
| 25 Mai 2017
Swydd Rydychen
|
---|
Dinasyddiaeth
| y Deyrnas Unedig
|
---|
Alma mater
| |
---|
Galwedigaeth
| hanesydd
, newyddiadurwr, cofiannydd
|
---|
Tad
| James Horne
|
---|
Mam
| Auriol Hay
|
---|
Priod
| Renira Margaret Ida Hawkins, Sheelin Ryan
|
---|
Plant
| Camilla Horne, Vanessa Horne, Alexandra Horne
|
---|
Gwobr/au
| CBE, Gwobr hanes Wolfson, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Marchog Faglor, Gwobr Hawthornden
|
---|
Hanesydd a llenor o Sais oedd yn arbenigo yn
hanes Ffrainc
oedd Syr
Alistair Allan Horne
(9 Tachwedd 1925 ? 25 Mai 2017). Ymhlith ei weithiau mae llyfrau ar
Frwydr Verdun
,
Comiwn Paris
,
cwymp Ffrainc i'r Natsiaid
,
Rhyfel Algeria
, a bywgraffiad awdurdodedig y Prif Weinidog
Harold Macmillan
.
Ganwyd Horne ym
Mayfair
,
Llundain
, a chafodd ei addysg yn ysgol breswyl Le Rosey (
y Swistir
) ac ysgol baratoi Millbrook (
Efrog Newydd
), cyn iddo astudio Saesneg yng
Ngholeg yr Iesu, Caergrawnt
. Gwasanaethodd yn
yr Awyrlu Brenhinol
a
Gwarchodlu Coldstream
rhwng 1943 a 1947, a chyrhaeddodd rheng capten yn y fyddin. Gweithiodd fel gohebydd tramor, ac o 1952 i 1955 ysgrifennodd o
Orllewin yr Almaen
fel gohebydd
The Daily Telegraph
. Yno bu hefyd yn asiant cudd-wybodaeth ar gyfer
MI6
.
[1]
Sefydlodd gymrodoriaeth o dan ei enw ym 1969, gyda chefnogaeth yr hanesydd
Raymond Carr
(warden
Coleg Sant Antwn, Rhydychen
ar y pryd), i gefnogi ysgolheigion ifainc oedd am ysgrifennu llyfr Saesneg ar unrhyw faes yn hanes modern ers 1815. Bu derbynnydd y wobr yn treulio blwyddyn yn gweithio gydag academyddion eraill a chyda mynediad at adnoddau ymchwil. Lansiwyd gyrfa sawl hanesydd gan y gymrodoriaeth hon, gan gynnwys
Norman Davies
,
Roy Foster
, a
Michael Ignatieff
. Cyhoeddwyd cyfrol dan olygyddiaeth Horne,
Telling Lives
, yn 2000 i nodi llwyddiant y cynllun, a honodd mai dyma "menter fwyaf gwerth chweil fy mywyd bron".
Derbyniodd CBE ym 1992 a'r
Legion d'honneur
ym 1993. Urddwyd ef yn farchog yn 2003 am ei "wasanaethau i'r berthynas Eingl-Ffrengig". Ysgrifennodd ddau gofiant,
A Bundle from Britain
am ei gyfnod yn yr Unol Daleithiau o 1940 i 1943, a
But What Do You Actually Do?
am ei "grwydredigaeth lenyddol".
[1]
- The Price of Glory: Verdun 1916
(1962)
- The Fall of Paris: the Siege and the Commune 1870-71
(1965)
- To Lose a Battle: France 1940
(1969)
- A Savage War of Peace
(1977)
- Napoleon: Master of Europe, 1805-1807
(1979)
- The French Army and Politics, 1870-1970
(1984)
- Macmillan: the Official Biography
(dwy gyfrol, 1988-89)
- A Bundle from Britain
(1993)
- The Lonely Leader Monty 1944-1945
(1994)
- Friend or Foe: An Anglo-Saxon History of France
(2004)
- Kissinger 1973, the Crucial Year
(2009)
- But What Do You Actually Do?
(2011)