Roedd
Alfred Bailey Brice
(
21 Medi
1871
-
28 Mai
1938
)
[1]
yn flaenwr
rygbi
rhyngwladol
Cymreig
a chwaraeodd rygbi clwb i
Aberafan
a Chaerdydd. Enillodd
y Goron Driphlyg
deirgwaith, roedd Brice yn adnabyddus am ei daclo caled ac ymosodol.
[2]
Roedd Brice yn un o nifer o 'flaenwr y cymoedd' a ddewiswyd i gynrychioli ei wlad ar droad y ganrif. Er iddo ddechrau ei yrfa ryngwladol gydag Aberafan, clwb y byddai'n gapten arno rhwng 1901 a 1903;
[2]
bu'n chwarae i Gaerdydd yn ddiweddarach.
Ganwyd Alfred Bailey Brice yn Weare,
Gwlad yr Haf
, yn blentyn i George Brice, ac Ann ei wraig. Bu George Brice yn gweithio fel gwas ffarm yng Ngwlad yr Haf ond erbyn 1874 roedd y teulu wedi symud i
Langeinwyr
lle fu George yn gweithio yn y pwll glo. Cafodd e'i addysg mewn ysgol yn Nyffryn Ogwr. Mewn cyfnod lle'r oedd rygbi yn gem amatur roedd yn ennill ei fywoliaeth fel
heddwas
yng Ngwasanaeth Heddlu Morgannwg.
[3]
Bu'n gwasanaethu fel Cwnstabl yn
y Bont-faen
,
Llandaf
a
Pharc y Rhath
,
Caerdydd
cyn cael ei godi'n Sarsiant yn
Nhai-bach
, lle arhosodd am 17 mlynedd hyd ei ymddeoliad. Ym 1919 derbyniodd Brice a'i frawd yng Nghyfraith, Charles Nicholls wobr gan Y Gymdeithas Achub Bywyd Brenhinol am beryglu eu bywyd eu hunain wrth geisio achub nyrs rhag boddi ym Mhorthcawl.
[4]
Ym 1903 priododd Jane Lewis Nicholls, merch y capten Henry Nicholls.
[5]
Bu iddynt fab a merch.
Bu farw wedi salwch byr yn ei gartref ar Ffordd Margam,
Port Talbot
yn 66 mlwydd oed. Wedi gwasanaeth yn Eglwys St Theodore, Port Talbot claddwyd ei weddillion ym mynwent y Groes Sanctaidd yn yr un dref.
Dechreuodd Brice i chware rygbi yn laslanc i dim ieuenctid Dyffryn Ogwr. Wedi gwneud yn dda yn y tim ieuenctid cafodd gynnig chware i dim
Tondu
. Ar yr adeg honno roedd Tondu a
Phen-y-bont
yn elynion pennaf ar y maes chware. Gyda gem i chware ar ddydd
Nadolig
yn erbyn Pen-y-bont roedd Tondu yn chwilio am chwaraewr galliasai marcio trichwarterwr peryglus Pen-y-Bont, Sarsiant Smith. Roedd Brice wedi gwneud gymaint o argraff ar y Sarsiant fel iddo awgrymu i'w gwrthwynebydd ifanc y byddai'n caffaeliad i'r heddlu. Felly deilliodd gyrfa Brice fel chwaraewr rygbi h?n ac fel heddgeidwad o'r un gem.
[6]
Cafodd Brice ei gapio gyntaf i
Gymru
mewn gem gartref yn
St Helen
ym
1899
yn erbyn Lloegr; er mai yng ngem olaf y twrnamaint yn erbyn Iwerddon dangosodd Brice ei werth i garfan Cymru. Ar ol i
Billy Bancroft
gael ei anafu ar ol cael ei daflu i'r dorf, roedd y Cymry yn ddyn i lawr i dim Gwyddelig uchel ei gymhelliant. Taclodd Brice yn dda gan orchuddio'r bel rydd mewn gem a aflonyddwyd gan oresgyniadau cyson o'r maes gan y dorf.
[2]
Er i Gymru golli o un cais i ddim dangosodd Brice sgiliau amddiffynnol cryf a fyddai’n gwasanaethu Cymru’n dda wrth iddi fynd mewn i’w ‘Oes Aur’ gyntaf. Chwaraeodd Brice bob gem yn chwe thwrnamaint y Pedair Gwlad yn olynol.
Er bod Brice fel arfer yn adnabyddus am 'gadw ei ben', o dan bwysau, yng ngem 1904 yn erbyn Iwerddon cafodd ei gosbi am alw'r dyfarnwr yn
thundering idiot
,
[2]
er y credir bod yr hyn a ddywedodd mewn gwirionedd yn llawer gwaeth na'r iaith a adroddwyd. Mynnodd
Undeb Rygbi Cymru
bod Brice ymddiheuro i Findaly, y dyfarnwr, ond gwrthododd Brice gan hawlio na ddefnyddiodd y fath iaith.
[7]
Cafodd Brice ei atal o’r gem am wyth mis a ni fu'n chwarae i Gymru eto.
[8]
Ym 1909 chwaraeodd ddwy gem i Glwb Rygbi Caerl?r, yn erbyn Headingley a Hartlepool Rovers ar 1 a 2 Ionawr.
[9]
Cymru
[10]
-
Lloegr
1899
,
1900
,
1901
,
1902
,
1903
,
1904
-
Iwerddon
1899, 1900, 1901, 1902, 1903, 1904
-
yr Alban
1899, 1900, 1901, 1902, 1903, 1904
- Smith, David; Williams, Gareth (1980).
Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union
. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.
ISBN
0-7083-0766-3
.
- Thomas, Wayne (1979).
A Century of Welsh Rugby Players
. Ansells Ltd.