Afon
yn ne
Affganistan
yw
Afon Helmand
(hefyd
Helmund
a
Hilmand
). Ei hyd yw 1400 km (870 milltir).
Mae'n codi yn ne-ddwyrain y wlad yn nhalaith
Zabul
ger y ffin a
Pacistan
. Rhed ar gwrs gorllewinol trwy dalaith
Kandahar
heibio i ddinas
Kandahar
a thref
Khugrani
. Yn nhalaith
Helmand
mae afonydd o'r
Hindu Kush
yn ymuno a hi ac mae'n troi i'r de ac yn llifo heibio i dref
Darweshan
ar y gwastatir. Wrth lifo i dalaith
Nimruz
mae'n troi i'r gorllewin ac yna i'r gogledd-orllewin i ymgolli yn llyn corsiog
Halmun Helmand
ar y ffin ag
Iran
.