Amffibiad
sy'n tarddu o nifer o lynoedd, megis
Llyn Xochimilco
ger
Dinas Mecsico
, yw'r
acsolotl
(o
Nahwatleg
?x?l?tl
[aː??oːloːt?] o
?tl
"d?r" a
x?l?tl
"un llithrig neu grychiog, gwas"). Salamandr neotenig ydyw, sy'n perthyn i'r salamadr teigr,
[1]
[2]
[3]
ac mae'n anarferol ymhlith amffibiaid gan eu bod yn troi'n oedolion heb fynd trwy
fetamorffosis
. Yn lle datbylgu ysgyfaint a mynd ar y tir, maent yn aros yn d?r gyda'u
tagellau
.
Yn 2010, roedd acsolotod gwyllt ar eu ffordd i ddifodiant
[4]
oherwydd twf Dinas Mecsico a'r llygredd d?r sy'n dod o hyn, yn ogystal a bygythiad rhywogaethau goresgynnol megis
tilapiaid
a
draenogiaid
. Fe'u rhestri gan y
CITES
fel rhywogaeth mewn pergyl a chan yr
IUCN
fel rhywogaeth mewn perygl argyfyngus yn y gwyllt, a phoblogaeth sy'n lleihau. Defnyddir acsolotod yn helaeth mewn ymchwil wyddonol oherwydd eu gallu i aildyfu aelodau'r corff.
[5]
Yn y gorffennol, bu i acsolotod gael eu gwerthu fel bwyd ym marchnadoedd Mecsico an un o brif fwyddydd yr
Asteciaid
oeddynt.
[6]