Cartograffydd a hynafiaethydd o
Fflandrys
oedd
Abraham Ortelius
(
1527
-
1598
). Ei waith enwocaf yw'r
Theatrum Orbis Terrarum
,
atlas
o'r byd cyfan (fel y'i adnabuwyd ar y pryd) a gydnabuwyd fel y casgliad safonol o fapiau ar ddiwedd yr 16g a dechrau'r ganrif olynol.
[1]
Teithiodd Ortelius yn eang i gasglu gwybodaeth a hynafiaethau. Cafodd swydd fel daearyddwr yn llys
Philip II, brenin Sbaen
, yn 1575.
Roedd yn adnabod yr hynafiaethydd Cymreig
Humphrey Lhuyd
, ac ymddangosodd dau fap o waith Lhuyd fel atodiad i
Theatrum orbis terrarum
Ortelius yn 1573, un o
Gymru
ac un o Gymru a
Lloegr
.