Tref a
chymuned
ym
mwrdeistref sirol Conwy
,
Cymru
, yw
Abergele
.
[1]
[2]
Mae'n dref farchnad, wledig ac yn ganolfan siopa i'r cylch, gyda gorsaf ar
Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru
. Saif ar lannau
Afon Gele
ar priffordd yr
A55
rhwng
Bae Colwyn
a'r
Rhyl
.
I'r dwyrain o'r dref ceir gwlybdir eang
Morfa Rhuddlan
a
Rhuddlan
tua phedair milltir i ffwrdd. Fe'i lleolwyd yn yr hen
Sir Ddinbych
cynt. Mae Caerdydd o ddeutu 202
km
i ffwrdd o Abergele ac mae Llundain o ddeutu 307 km. Y ddinas agosaf ydy
Llanelwy
sy'n tua 11 km i ffwrdd.
Tref gymharol fodern yw Abergele a dyfodd o gwmpas yr hen eglwys. Tua 1400, yr oedd Abergele'n ran o Arglwyddiaeth Dinbych. Yr oedd ganddi dau gr?p o boblogaethau, sef y Cymry cynhenid a oedd yn ffermio'r tir yn ol hen draddodiadau, a phobl trefol a gyflwynwyd i ddatblygu masnach a gwthio dylanwad Seisnig. Yr oedd y pobl trefol yn berchen ar diroedd bwrdais. Canolfan canol oesol y dref oedd y Pil, a oedd yn debyg i ryw fath o gaer. Yn 1698, cyfeiriodd Edward Llwyd at y lle fel
"Kastell Pen y Pil"
. Gwelir bod llys cyfiawnder wedi ei gynnal yn fan hyn hefyd, yn ol cofnodion refeniw. Ceir cofnod cynharaf y pil o 1334. Bellach dim ond sgwar o dir uwch sydd i'w weld yn y fan.
Bu
damwain difrifol
ar y rheilffordd yn
1868
pan darwyd yr
Irish Mail
gan dri wagen petrol oedd wedi rhedeg yn rhydd i lawr y trac; collodd 33 o bobl eu bywydau ac mae eu beddau i'w gweld ym mynwent yr eglwys heddiw.
Lladdwyd dau aelod o'r gr?p cudd
Mudiad Amddiffyn Cymru
, sef William Alwyn Jones a George Francis Taylor, yn Abergele pan daniodd y defnyddiau ffrwydrol yr oeddynt yn eu cludo ar 1 Gorffennaf 1969, diwrnod arwisgiad Tywysog Siarl. Gelwir y ddau'n
Ferthyron Abergele
ac mae eu beddau'n gyrchfan i
Genedlaetholwyr
a chynhelir seremoni flynyddol yno.
I'r de ddwyrain o'r dref ceir t?r ar ben Bryn T?r. Enw arall yw Gallt y Felin Wynt. Credir ei fod wedi ei hadeiladu fel rhan o gyfres o dyrrau, gyda'r lleill yn Mynydd y Garreg (Chwitffordd), t?r yr eglwys yn Llandrillo yn Rhos, a Deganwy. Mae'n bosib bod y cyfres wedi ymestyn ymhellach i Ynys Mon, Sir Gaernarfon ac i lawr i Borthmadog. Credir y'i hadeiladwyd tua 1600-1610 fel amddiffyniad yn erbyn morladron. Mae'n debyg yr oeddent yn cael ei defnyddio i roi arwydd i bobl ar y tir o unrhyw ymosodiad o'r mor. Nid oes gywbodaeth sut yr oedd yr arwydd yn cael ei roi, ond mae'n debyg gyda than
[3]
Codwyd Eglwys Fihangel Sant yn y
15g
ar safle eglwys h?n; cafodd ei hadnewyddu yn
1879
. Mae'r bedyddfaen yn dwyn y dyddiad
1663
. Yn rhan o'r llawr ger yr allor, mae hen garreg a chroes arni sy'n dyddio o'r
13g
; credir ei bod yn garreg fedd abad lleol.
Adeiladwyd capel i'r Mormoniaid, sef
Hen Gapel-y-Seintiau
yn 1849. Bellach mae'r adeilad yn rhan o dafarn y 'Tarw', neu'r 'Bull' fel y'i gewir. Adeiladwyd y capel ym 1849 ac wedi i'r sefydlwyr fudo i
Ogledd America
, daeth yn gapel i'r
Bedyddwyr
ym 1856. Caeodd y capel ym 1863 pan gafodd ei defnyddio fel warws, yna' fwthyn, yn storfa
gwirodydd
cyn dod yn rhan o Westy'r Bull Hotel, y drws nesaf.
[4]
Prif sefydlydd y capel oedd saer maen o'r enw John Parry (1817-1882) a anwyd yn
Nhrelawnyd
, Sir y Fflint.
[5]
Yn 1867, bu llongddrylliad
Guardian Angel
oddi ar arfordir Abergele. Yr oedd hi ar daith o
Lerpwl
i
Efrog Newydd
a dim ond chwech o'r 14 a oroesodd. Yn sgil hyn, penderfynodd Gorsaf Bad Achub y Rhyl wneud cais am ail gwch o dan ei gofalaeth a'i leoli yn Abergele, tua chyfeiriad y gwynt. Derbyniodd
Sefydliad Brenhinol y Badau Achub
y cais a anfonwyd bad achub
Henry Nixon No. 2
i'r orsaf. Yr oedd y cwch yn rhodd gan Henry Nixon o
Fanceinion
. Yr oedd y cwch 32 troedfedd o hyd, 7 troedfedd o led ac yn pwyso dwy dunnell, ac yn medru dal hyd at 13 o bobl. Dim ond dwywaith y cafodd y cwch ei alw i wasanaethu mewn un flwyddyn - 1868/1869. Penderfynwyd symud y cwch i orsaf newydd yn
Llanddulas
.
Ceir dwy ogof
paleolithig
nepell o'r dref:
Ogof Bontnewydd
(Cyfeirnod OS: SJ01527102) a
Chefn Ogo
. Mae ogof Pontnewydd yn un o'r ddwy ogof bwysicaf yng ngwledydd Prydain o ran olion dyn a
dyn Neanderthal
; darganfuwyd dant dynol yma sydd oddeutu 220,000 o flynyddoedd oed. Cafwyd hyd i lawfwyeill
Neanderthalaidd
hefyd, ac esgyrn anifeiliaid gydag olion cigydda arnynt. 750 metr i'r de-ddwyrain, ar yr un ochr i'r afon mae Ogof Cefnmeiriadog neu Cefn Ogo gyda cheg yr ogof mor anferthol fel y'i galwyd unwaith gan William Davis yn ei lyfr 'hand-book for the Vale of Clwyd' fel
one of the most spacious and magnificent caverns in Europe
. Mae ceg yr ogof yn 50 troedfedd o uchter, gyda stalactites yn diferu o'r nenfwd mewnol.
Mae
Parc y Meirch
gerllaw.
Yn yr ardal, ceir tair fryngaer hynafol. I'r de-orllewinol o'r dref safai
Bryngaer Dinorben
a ddinistriwyd yn llwyr gan y chwarel gyfagos ond ceir tystiolaeth fod pobl wedi byw yno'n ddi-baid o ddiwedd yr
Oes Efydd
hyd at y 7ed ganrif.
[6]
Yn syth i'r de saif
Castell Cawr
sy'n dyddio o Oes yr Haearn. Tua chyfeiriad Llanddulas a Rhyd-y-foel, ceir olion
Pen y Corddyn Mawr
, caer arall o Oes yr Haearn.
Yng
nghyfrifiad 2011
roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
[7]
[8]
[9]
Cyfrifiad 2011
|
|
|
|
Poblogaeth cymuned Abergele (pob oed) (10,577)
|
|
100%
|
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Abergele) (2,014)
|
|
19.6%
|
:
Y ganran drwy Gymru
|
|
19%
|
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Abergele) (4921)
|
|
46.5%
|
:
Y ganran drwy Gymru
|
|
73%
|
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Abergele) (2,572)
|
|
51.6%
|
:
Y ganran drwy Gymru
|
|
67.1%
|
- Castell Gawr - bryn coediog 1 milltir i'r de, safle camp
Rufeinig
- Castell Gwrych
- castell
Gothig
o'r
19g
- Moelfre Isaf
- bryn deniadol, 2 milltir i'r de, gyda golygfeydd braf
- Pensarn
- pentref glan mor a chanolfan twristiaeth, 1 milltir i'r gogledd o'r dref
Cynhaliwyd yr
Eisteddfod Genedlaethol
yn Abergele ym 1995. Gweler:
Fe wnaeth yr amgylchiadau a arweinodd at
lifogydd Mor Hafren
yn 1607 hefyd gael effaith ar Abergele a gogledd Cymru. Mewn llythyr gan John Lloyd at ei gefnder Syr John Salusbury o Leweni, maent yn trefnu i gyfarfod ac arolygu'r niwed i'r clawdd mor o Abergele hyd at y foryd yn y Rhyl, a'r angen i atal rhag fwy o niwed.
[10]
- ↑
"Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru"
.
Llywodraeth Cymru
. 13 Hydref 2021.
- ↑
British Place Names
; adalwyd 20 Tachwedd 2021
- ↑
Lloyd, George (1964). "Beacon Watch Towers of the North Wales Coast".
Archaeologica Cambrensis
113
: 150-158.
- ↑
"Bull Hotel, Abergele"
.
www.bullhotelabergele.co.uk
. Cyrchwyd
2024-02-12
.
- ↑
"The Welsh Saints Project"
.
www.welshsaints.byu.edu
. Cyrchwyd
2024-02-12
.
- ↑
Gwyddoniadur Cymru
, gol. John Davies (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), tud. 7
- ↑
"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru"
. Swyddfa Ystadegau Gwladol
. Cyrchwyd
2012-12-12
.
. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑
Canran y diwaith drwy Gymru
; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑
Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol
; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑
"Floods at Abergele".
Trafodion
(Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych)
2
: 154-155. 1953.
-
Traeth a phrom Abergele, gyda Chastell Gwrych yngh nghanol y llun
-
Traeth Abergele, gyda'r Gogarth yn y pellter