Abd El-Kader
|
---|
|
Ganwyd
| ?????????
6 Medi 1808
Guittena
|
---|
Bu farw
| 26 Mai 1883
Damascus
|
---|
Dinasyddiaeth
| yr Ymerodraeth Otomanaidd
|
---|
Galwedigaeth
| gwleidydd
,
milwr
, mujahid, gwyddonydd, gwrthryfelwr milwrol,
bardd
,
ysgrifennwr
|
---|
Swydd
| emir
|
---|
Perthnasau
| Razzaq Abd Al-Qadr, Muhammad Said al-Jazairi, Khaled el-Hassani ben el-Hachemi
|
---|
Gwobr/au
| Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Urdd yr Eryr Gwyn, Urdd yr Eryr Du, Urdd y Gwaredwr, Urdd Piws IX
|
---|
Emir a swltan
Algeriaidd
o dras
Berberaidd
,
diwinydd
Swffi
, gwleidydd ac arweinydd y gwrthsafiad yn erbyn gwladychiad Algeria gan
Ffrainc
, llenor ac athronydd, a ystyrir yn arwr cenedlaethol yn ei wlad enedigol oedd
Abd El-Kader
neu
Abdelkader
(
Arabeg
: ??? ?????? ???????? 'Abd al-Q?dir al-Djaz?'ir?, Abd el-Kader Algeriad) (ganed
6 Medi
1808
ger
Mascara
yn Algeria - bu farw
26 Mai
1883
yn
Damascus
,
Syria
).
Ar ol goresgyniad dinas
Alger
(Algiers) gan luoedd Ffrainc, etholwyd Abd El-Kader yn
emir
i'w harwain gan lwythau Berber ardal
Oran
, yng ngogledd-orllewin Algeria. Gyda dyfalbarhad a dawn filwrol anghyffredin, arweiniodd yr Algeriaid mewn rhyfel herfilwrol hir yn erbyn byddin Ffrainc, a barhaodd o 1832 hyd 1847. Yn 1834 gorfododd y Cadfridog Ffrengig Desmichels i arwyddo cytundeb yn ei gydnabod fel arweinydd ac ym Mehefin 1835, enillodd fuddugoliaeth fawr ar y fyddin Ffrengig ym mrwydr
Makta
.
Ond tyfodd nerth y Ffrancod yn Algeria a bu rhaid i Abd El-Kader ffoi i'r gorllewin a chael noddfa ym
Moroco
. Oddi yno dechreuodd ymladd rhyfel
jihad
yn erbyn y Ffrancod yn enw
Islam
. Ildiodd i'r Ffrancod yn 1847 a chafodd ei anfon i Ffrainc lle y'i dalwyd fel carcharor hyd 1852 pan gafodd ei ryddhau ar orchymyn yr ymerodr newydd,
Louis Napoleon
. Cafodd ei alltudio i
Bursa
(
Twrci
) ac oddi yno symudodd i ddinas
Damascus
yn
Syria
lle bu farw yn 1883.
Fel llenor ac athronydd, fe'i cofir yn bennaf am ei
hunangofiant
cyfriniol
y
Qitab al-Mawaqif
('Llyfr yr Arosfeydd').
Abd El-Kader yw un o'r ychydig ffigyrau Arabaidd ac Islamig sydd wedi ysbrydoli bardd Cymraeg. Cyfansoddodd
Walter Davies (Gwallter Mechain)
(1761-1849) gyfres o
englynion
iddo sy'n ei foli fel arweinydd y frwydr am ryddid cenedlaethol yn Algeria. Dyma'r ddau englyn agoriadol:
- Codwm i Abd-el-Cader?bwriedir,
- Mewn brad a chreulonder;
- Ond mab Ismael, hael o'i her,
- I fyny deil ei faner!
- Ai'n deilwng i hudolion?anonest,
- Dan enw Cristnogion,
- Rheibio gwlad (brad ymhob bron)
- Y dewr a'r hen frodorion?
[1]
- ↑
Gwallter Mechain, 'Abd-el-Cader',
Gwaith Gwallter Mechain
, cyfrol 1, gol. D. Silvan Evans (Caerfyrddin, 1868).