Sioe gerdd
1975 ydy
A Chorus Line
, am un deg saith o ddawnswyr
Broadway
mewn clyweliad am ran yn y llinell gorws. Ysgrifennwyd y llyfr gan
James Kirkwood, Jr.
a
Nicholas Dante
, geiriau'r caneuon gan
Edward Kleban
a chyfansoddwyd y gerddoriaeth gan
Marvin Hamlisch
.
Am fod 19 o brif gymeriadau, caiff y sioe ei lleoli ar lwyfan gwag yn un o theatrau Broadway, yn ystod clywediad am sioe gerdd. Dengys y sioe gipolwg o bersonoliaethau'r perfformwyr a'u coreograffwr, wrth iddynt ddisgrifio'r digwyddiadau sydd wedi dylanwadu ar eu bywydau ac ar eu penderfyniad i fod yn ddawnswyr.
Roedd y cynhyrchiad Broadway gwreiddiol, a gyfarwyddwyd a choreograffwyd gan
Michael Bennett
yn llwyddiant ysgubol nas gwelwyd ei fath o'r blaen, a derbyniodd ddeuddeg enwebiad am
Wobr Tony
, gan ennill naw ohonynt yn ogystal a'r
Wobr Pulitzer
am Ddrama ym
1976
. Rhedodd y sioe am 6,137 o berfformiadau. Mae'r sioe wedi cael ei chynhyrchu'n llwyddiannus ledled y byd droen, a dychwelodd i Broadway yn
2006
.
- "I Hope I Get It" ? Zach, Paul a Company
- "I Can Do That" ? Mike
- "And..." ? Bobby, Richie, Val a Judy
- "At the Ballet" ? Sheila, Bebe a Maggie
- "Sing!" ? Kristine, Al a Chwmni
- "Montage Rhan 1: Hello Twelve, Hello Thirteen, Hello Love" ? Mark, Connie a Chwmni
- "Montage Rhan 2: Nothing" ? Diana
- "Montage Rhan 3: Mother" ? Don, Judy, Maggie a Cwmni
- "Montage Rhan 4: Gimme The Ball" ? Greg, Richie a Chwmni
- "Dance: Ten; Looks: Three" ? Val
- "The Music and the Mirror" ? Cassie
- "One" ? Cwmni
- "The Tap Combination" ? Company
- "What I Did for Love" ? Diana a Chwmni
- "One" (Reprise) ? Company