Mae
Ol-foderniaeth
yn label ar fathau o arferion diwylliannol a meddwl
athronyddol
sydd yn gwrthod safbwyntiau
modernaidd
. Yn fwy penodol, gwelir yma dueddiadau mewn diwylliant cyfoes a nodweddir gan y broblem o
wir
ionedd gwrthrychol ac amheuaeth gynhenid tuag at naratif byd eang diwylliannol neu feta-naratif. Gwelir yma'n aml y gred fod y rhan fwyaf o realiti - os nad y cyfan - yn adeiladaeth gymdeithasol, ac yn agored i newid sy'n dibynnu ar leoliad ac amser.
Pwysleisir gan ol-fodernwyr swyddogaeth iaith, perthynas lywodraethol, a chymhelliant, gan ymosod ar ddosbarthiadau llym megis dyn yn erbyn menyw, du yn erbyn gwyn,
anghyfunrhyw
yn erbyn
cyfunryw
ac imperialaeth yn erbyn gwladychiaeth.
Tuedda meddylwyr ol-fodernaidd awgrymu bod realiti yn lluosog ac yn gymharol: y mae felly'n dibynnu ar y carfanau sy’n dangos diddordeb ac yn ymglymu. Mae ol-foderniaeth wedi dylanwadu ar nifer o feysydd diwylliannol, gan gynnwys
crefydd
, beirniadaeth laith,
cymdeithaseg
, ieithyddiaeth,
pensaerniaeth
,
anthropoleg
, y celfyddydau gweledol, a
cherddoriaeth
.