Dull o
delweddu meddygollweddu meddygol
lle gwneir delweddau o'r
corff
yn
gyfrifiadurol
gan ddefnyddio
pelydrau-x
yw
tomograffeg gyfrifiadurol
a elwir hefyd yn
sganio CT
[1]
neu
sganio CAT
.
[2]
Defnyddir tomogramau, sef y delweddau a gynhyrchir gan sganiau CT, gan
feddygon
i wneud
diagnosis
o
gyflwr meddygol
cleifion. Maent er enghraifft yn ddefnyddiol wrth wneud diagnosisau o
enseffalitis
a
stroc
.
Mae sganiwr CT yn allyrru cyfres o belydrau-x cul wrth iddo symud drwy arc i gynhyrchu delwedd fanwl o'r corff mewn haenau sydd yn fanylach na phelydr-x unigol. Gall y canfodydd pelydr-x y tu mewn i sganiwr CT gweld cannoedd o wahanol lefelau o ddwysedd, gan gynnwys
meinweoedd
y tu mewn i organau solet megis yr
afu
, ac anfonir yr wybodaeth hon at gyfrifiadur i adeiladu
delwedd drawstoriadol
o gorff y claf.
[3]
I dderbyn sgan CT, gorwedda'r claf ar wely symudol y tu mewn i'r peiriant sganio. Wedi i bob pelydr-x gael ei chwblhau, bydd y gwely yn symud ymlaen ychydig. Gofynnir i'r claf orwedd yn llonydd iawn tra bydd pob sgan yn cael ei gymryd er mwyn osgoi niwlo'r delweddau. Gan fod cymaint o sganiau yn cael eu gwneud mae'n bosib i'r weithdrefn gyfan gymryd hyd at 30 munud. Os yw'r claf yn teimlo'n bryderus mae'n bosib y caiff
dawelydd
.
[4]
Gan ddibynnu ar y rhan o'r corff sy'n cael ei harchwilio, gall
lliwur gwrthgyferbynnu
gael ei ddefnyddio i wneud i rai meinweoedd ymddangos yn fwy clir o dan belydr-x. Defnyddiwr ar gyfer sganiau'r
ymennydd
i amlygu
tiwmorau
a sganiau'r
frest
i alluogi meddygon ddarganfod a oes modd tynnu tiwmor drwy lawdriniaeth neu beidio, ac yn achos sganiau'r
abdomen
gall defnyddio
uwd bariwm
fel cyfrwng gwrthgyferbynnu sydd yn ymddangos yn wyn ar y sganiau wrth iddo symud drwy'r
llwybr treulio
.
[3]
Mae sganiau CT o ddefnydd diagnostig yn enwedig o ran y pen a'r abdomen. Defnyddir hwy i gynllunio trefniadau triniaeth
radiotherapi
, i asesu clefydau
fasgwlaidd
, i sgrinio am
glefyd y galon
a'r hasesu, i asesu anafiadau a chlefydau'r
esgyrn
yn enwedig yr
asgwrn cefn
, i gael gwybod
dwysedd esgyrn
wrth archwilio
osteoporosis
, ac i arwain gweithdrefnau
biopsi
ar gyfer tynnu samplau o feinwe.
[5]
Mae sganiau CT ar y
pen
yn ffordd effeithiol o archwilio'r pen a'r ymennydd am diwmorau tybiedig,
gwaedu
, a
rhydweliau
wedi chwyddo. Maent hefyd o ddiben ar gyfer archwilio'r ymennydd yn dilyn stroc.
[5]
Defnyddir sgan CT yngh?d a
sgan MRI
i wneud diagnosis o enseffalitis gan eu bod yn dangos mannau o chwyddo ac
edema
(dropsi) yn yr ymennydd, sydd o gymorth wrth wahaniaethu rhwng enseffalitis ac afiechydon eraill megis tiwmor neu stroc.
[6]
Defnyddir sganiau CT abdomenol i ddod o hyd i diwmorau, i wneud diagnosis o gyflyrau lle bydd yr organau mewnol yn chwyddo neu'n
llidus
, ac i ddatgelu rhwygiadau'r
ddueg
, yr
arennau
neu'r
afu
, fel y gallant ddigwydd mewn damweiniau traffig ffordd difrifol.
[5]
Gweithdrefn ddi-boen yw sgan CT
[7]
ac yn gyffredinol fe'i ystyrir yn ddiogel iawn.
[8]
Mae'n broses gyflym sydd yn dileu'r angen am
lawdriniaeth fewnwthiol
. Ond mae sganiau CT yn golygu amlygiad i
ymbelydredd
ar ffurf pelydrau-x, ac er cedwir lefel yr ymbelydredd a ddefnyddir i isafbwynt i atal niwed i gelloedd y corff, mae'r amlygiad i ymbelydredd yn dibynnu ar nifer y delweddau sydd angen eu cymryd. Ni wneir sganiau CT ar fenywod
beichiog
gan fod ychydig o risg y gallai'r pelydrau-x achosi
annormaledd
yn yr
embryo
/
ffetws
. Mae'n bosib i
iodin
, sydd yn aml yn sylwedd mewn y lliwur gwrthgyferbynnu a ddefnyddir mewn sganiau CT, achosi
adwaith alergaidd
mewn rhai pobl. Oherwydd y risgiau uchod fe ofynnir i gleifion cyn derbyn sgan CT os ydynt yn credu y gallent fod yn feichiog, neu os oes unrhyw alergeddau ganddynt. Yn achlysurol iawn gall y lliwur achosi rhywfaint o niwed i'r arennau mewn pobl sydd eisoes a phroblemau'r arennau. Cynghorir i famau sy'n
bwydo ar y fron
aros am 24 awr yn dilyn pigiad y gwrthgyferbyniad cyn ailddechrau
bwydo ar y fron
.
[8]