한국   대만   중국   일본 
Rupert Murdoch - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Rupert Murdoch

Oddi ar Wicipedia
Rupert Murdoch
Ganwyd 11 Mawrth 1931  Edit this on Wikidata
Melbourne   Edit this on Wikidata
Man preswyl Adelaide , Melbourne , Yass, Dinas Efrog Newydd   Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Unol Daleithiau America , Awstralia   Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth golygydd, entrepreneur, ariannwr, cyhoeddwr, person busnes  Edit this on Wikidata
Swydd cadeirydd , executive chairman, executive chairman, executive chairman, Actio , cadeirydd , cadeirydd   Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol plaid Weriniaethol   Edit this on Wikidata
Tad Keith Murdoch  Edit this on Wikidata
Mam Elisabeth Murdoch   Edit this on Wikidata
Priod Anna Murdoch Mann, Wendi Murdoch, Jerry Hall, Patricia Booker, Elena Zhukova  Edit this on Wikidata
Plant James Murdoch, Elisabeth Murdoch, Lachlan Murdoch, Grace Helen Murdoch, Chloe Murdoch, Prudence Murdoch  Edit this on Wikidata
Gwobr/au Marchog Uwch Groes Urdd Sant Grigor Fawr, Medal Canmlwyddiant, Cydymaith Urdd Awstralia, Commander First Class of the Order of the White Rose of Finland, Financial Times Person of the Year, Great Immigrants Award, Medal Bodley  Edit this on Wikidata

Dyn busnes rhyngwladol o Awstralia yw Rupert Keith Murdoch AC, KSG (ganwyd 11 Mawrth 1931 ).

Etifeddodd News Limited gan ei dad yn 1950 gan weithio am ychydig fel Prif Weithredwr y cwmni. [1] Ganwyd Murdoch ym Melbourne a daeth i fyw i Loegr yng nghanol y 1960au gan brynu'r papurau newydd News of the World , The Sun ac yn ddiweddarach The Times .

Roedd ei reolaeth dynn ar gwmni teledu Sky wedi golygu, yn ol llawer, fod ganddo reolaeth (neu fonopoli hyd yn oed) ar y dewis o chwaraeon a newyddion a welir ar y teledu, yn arbennig gemau pel-droed . Gwerthodd Sky i Comcast yn 2018 wedi ymgais aflwyddiannus i brynu'r cwmni yn llawn. [2]

Yn y 2010au wynebodd gyhuddiadau fod rhai o'i gwmniau (gan gynnwys News of the World ) wedi bod yn hacio ffonau pobl a bum heddluoedd gwledydd Prydain a'r UDA yn ymchwilio i'r cyhuddiadau hyn. [3] Rhoddodd Murdoch a'i fab James , a'i gyn-CEO Rebekah Brooks dystiolaeth o flaen Ymchwiliad Leveson ac yna o flaen Pwyllgor Seneddol yn Llundain . [4]

Bywyd personol [ golygu | golygu cod ]

Mae wedi priodi pum gwaith: [5]

  • Patricia Booker rhwng 1956 a 1967. Stiwardes ar awyrennau oedd ei gwaith, ganwyd un ferch iddynt, Prudence.
  • Anna Murdoch Mann rhwng 1967 a 1999. Roedd hi'n gweithio i bapur newydd y Daily Mirror yn Sydney . Hwn oedd ei briodas hiraf a ganwyd tri plentyn iddynt, Elisabeth , Lachlan a James.
  • Wendi Deng rhwng 1999 a 2013. Roedd hi'n gweithio i gwmniau teledu yn Tseina a Hong Cong . Ganwyd dwy ferch iddynt, Grace a Chloe.
  • Jerry Hall rhwng 2016 a 2022. Model ac actores. Wedi ysgaru cafodd Murdoch berthynas fer a dyweddiad i Ann Lesley Smith ond daeth a'r berthynas i ben o fewn misoedd.
  • Elena Zhukova yn Mehefin 2024. Yn 2023 cyfarfu Zhukova, cyn-fiolegydd moleciwlaidd o Rwsia a phriododd hi y flwyddyn ganlynol. [6]

Cyfeiriadau [ golygu | golygu cod ]

  1. Walker, Andrew (31 Gorff 2002). " Rupert Murdoch: Bigger than Kane " . British Broadcasting Corporation . Cyrchwyd 27 Rhagfyr 2009 . Check date values in: |date= ( help )
  2. "Rupert Murdoch ends Sky association with Comcast stake sale" . BBC News (yn Saesneg). 2018-09-26 . Cyrchwyd 2024-06-10 .
  3. "Phone hacking: David Cameron announces terms of phone-hacking inquiry" . The Telegraph . London. 13 Gorff 2011 . Cyrchwyd 13 Gorff 2011 . Check date values in: |accessdate=, |date= ( help )
  4. Fortado, Lindsay; Penny, Thomas (13 Gorff 2011). "News Corp.'s Murdoch Faces Six U.K. Inquiries as Parliament Seeks Hearing" . Bloomberg . Cyrchwyd 24 Gorff 2011 . Check date values in: |accessdate=, |date= ( help )
  5. Alexander, Martha (2024-06-04). "The many wives of Rupert Murdoch" . Evening Standard (yn Saesneg) . Cyrchwyd 2024-06-10 .
  6. "Rupert Murdoch yn priodi am y pumed tro yn 93 oed" . newyddion.s4c.cymru . 2024-06-10 . Cyrchwyd 2024-06-10 .


Baner AwstraliaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Awstraliad . Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato .