Refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd
Dydd Iau, 23 Mehefin 2016
|
---|
A ddylai'r Deyrnas Unedig aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd neu adael yr Undeb Ewropeaidd?
|
Location
| Y Deyrnas Unedig
a
Gibraltar
|
---|
Date
| 23 Mehefin 2016
(
2016-06-23
)
|
---|
Canlyniadau
|
Ie neu Na
|
Pleidleisiau
|
Canran
|
Ie
|
16,141,241
|
7001481100000000000
48.11%
|
Na
|
17,410,742
|
7001518900000000000
51.89%
|
Pleidl. dilys
|
33,551,983
|
7001999200000000000
99.92%
|
Annilys
|
26,033
|
6998800000000000000
0.08%
|
Cyfanswm y pleidleisiau
|
33,578,016
|
100.00%
|
Pleidleiswyr
|
7001722109999999999
72.21%
|
Etholaeth
|
46,501,241
| |
Y canlyniadau yn ol ardaloedd pleidleisio
|
|
Ie
Na
| |
Yn dilyn pasio yn Senedd y Deyrnas Unedig (DU) 'Ddeddf Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd' (UE), (
European Union Referendum Act 2015
) cynhaliwyd
Refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, 2016
neu
Brexit
(
British Exit
) ar
23 Mehefin
2016
, a oedd yn cynnwys gwledydd y DU a
Gibraltar
. Pwrpas y refferendwm oedd caffael barn dinasyddion y DU a Gibraltar ar
aelodaeth y DU
o fewn
y Gymuned Ewropeaidd
. Canlyniad y refferendwm oedd
gadael Ewrop
, gyda 17,410,742 (51.89%) o bleidleisiau'n cael eu bwrw dros adael ac 16,141,241 (48.11%) dros aros. Roedd y nifer a bleidleisiodd yn gymharol uchel: 72.21%. O fewn awr neu ddwy i'r holl ganlyniadau gael eu cyhoeddi dywedodd y Prif Weinidog
David Cameron
y byddai'n ymddiswyddo ar ol "sadio a llonyddu'r cwch", ac y bwriada adael ei swydd cyn Hydref 2016.
Gogledd Iwerddon a'r Alban yn pleidleisio dros aros.
Gorfodwyd y
Prif weinidog
David Cameron
i gynnal refferendwm gan fwrlwm cyn-etholiadol
UKIP
yng ngwanwyn 2015, pan cyhoeddodd sawl pol piniwn y byddai UKIP - sydd ag un nod yn unig, sef gadael yr UE - yn llwyddo i ddwyn seddi nifer o
Aelodau Seneddol
y
Blaid Geidwadol
yn
Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015
. Fodd bynnag, canlyniad siomedig a gafodd UKIP: un AS (Mark Reckless), ond daliodd Cameron at ei air a threfnwyd Refferendwm yn goelbren democrataidd.
Yr unig gwestiwn a ofynwyd ar y papur pleidleisio oedd:
- A ddylai'r Deyrnas Unedig aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd neu adael yr Undeb Ewropeaidd?
a'r unig ddau ddewis a roddwyd oedd:
Aros
yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd
Gadael
yr Undeb Ewropeaidd
[1]
Adladd gwleidyddol ac ariannol i'r canlyniad
[
golygu
|
golygu cod
]
Wedi i lond dwrn o ganlyniadau ddod i'r fei, disgynodd gwerth y bunt yn erbyn y ddoler oddeutu 9%. O fewn deg munud i'r farchnad stoc agor ar ddiwrnod canlyniad y Refferendwm, gwelwyd gwerth £137bn yn cael ei ddileu a disgynodd FTSE 250 11.7%. Disgynodd gwerth cyfraddau banciau a chwmniau tai yn fwy na siars eraill, ac ym mhlith y gwaethaf roedd: Taylor Wimpey (-42%), Persimmon (-40%), RBS (-34%), IAG (-33%), Barclays (-29%) a Lloyds (-29%).
[2]
Erbyn Hydref 2016 roedd gwerth y bunt yn erbyn y ddoler wedi gostwng ei werth i'r gwerth lleiaf am dros 130 o flynyddoedd.
Un o'r cyntaf i wneud sylw oedd
Jean-Marie Le Pen
, arweinydd Ffrynt Cenedlaethol Ffrainc, a gymharodd canlyniad y Refferendwm i "wal Berlin yn cwympo".
[3]
Mynegodd Prif Weinidog
Y Weriniaeth Tsiec
, Bohuslav Sobotka, y bydd ei wlad yntau, o ganlyniad i hyn, yn cynnal Refferendwm debyg.
[4]
Rhybuddiodd Gweinidog Tramor
Sbaen
,
Jose Garcia-Margallo
, y bydd Sbaen yn hawlio
Gibraltar
yn ol i'w corlan pe bai'r DU yn gadael yr UE.
[5]
Pleidleisiodd
yr Alban
a
Gogledd Iwerddon
dros aros. Ddwy flynedd ynghynt, yn dilyn
Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014
, mynegodd arweinyddion yr
SNP
,
Alex Salmond
a
Nicola Sturgeon
, y byddai pobl yr Alban yn mynnu ail Refferendwm ar Annibyniaeth, pe bai Lloegr a Chymru yn pleidleisio i adael yr UE a'r Alban dros aros. Ar fore diwrnod y canlyniad, cyhoeddodd Sturgeon fod ail Refferendwm yn gwbwl debygol. Yng Ngogledd Iwerddon, galwodd arweinydd
Sinn Fein
,
Gerry Adams
, hefyd am Refferedwm dros Annibyniaeth. Ym Mai 2016, cyn y Refferendwm, rhybuddiodd Prif Weinidog Cymru,
Carwyn Jones
, "y gallai gadael Ewrop chwalu'r DU".
[6]
Ar ddiwrnod cyhoeddi canlyniad y Refferendwm, dywedodd: "Rwyf yn hynod siomedig gyda'r canlyniad. Dyma refferendwm na ddylai, yn fy marn i, fod wedi digwydd, nid oherwydd fy mod yn gwrthwynebu'r penderfyniad democrataidd a gymerwyd heddiw, ond oherwydd ei amseriad mor fuan ar ol etholiadau'r cynulliad. Roeddwn yn teimlo nad oedd y ddadl hon am yr UE mewn gwirionedd."
[7]
Fe bleidleisiodd 854,572 (52.5%) o drigolion Cymru o blaid gadael yr UE, o'i gymharu a 772,347 (47.5%) a oedd am aros. Er gwaethaf galwad y Blaid Lafur, mae nifer o ardaloedd traddodiadol Llafur fel Caerffili, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Casnewydd ac Abertawe wedi pleidleisio i anwybyddu'r alwad honno, gan droi eu cefn ar Ewrop. Allan o 22 awdurdod lleol, 5 yn unig a bleidleisiodd dros aros o fewn Ewrop: Gwynedd, Ceredigion, Bro Morgannwg, Sir Fynwy a Chaerdydd.
Yn ol
Emyr Lewis
, cyfreithiwr sy'n arbenigo ar gyfraith Ewrop, "O ran Cymru yn benodol, bydd tipyn o waith cymhleth a manwl i'w wneud i ystyried sut y bydd yr ariannu Ewropeaidd cyfredol (sydd i fod i bara nes 2020) yn cael ei drin. A fydd yn cael ei gwtogi, neu hyd yn oed ei ddiddymu? A fydd yr Undeb yn caniatau i Lywodraeth Cymru ddod i gytundeb dros Gymru ar wahan i Lywodraeth Prydain, fel y mae Carwyn Jones wedi ei awgrymu?"
[8]
Dywedodd Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol,
Elin Jones
fod "gan y bleidlais i adael yn Refferendwm yr UE "oblygiadau eang" i gyfeiriad Cymru a'i chynulliad... Bydd angen llais cryf, a bydd angen bod o amgylch y bwrdd wrth gynnal unrhyw drafodaethau yngl?n a dyfodol y DU."
Ymunodd y Deyrnas Unedig (DU) gyda'r Undeb Ewropeaidd (a adnaybddwyd yr adeg honno fel 'y Farchnad Gyffredin', neu'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd - EEC yn Saesneg) ar 1 Ionawr 1973.
Y Blaid Geindwadol oedd uchaf eu cloch dros ymuno a nhw oedd yn y Llywodraeth, gydag
Edward Heath
yn brif weinidog. Erbyn
Etholiad 1974
roedd y Blaid Lafur, dan arweinyddiaeth
Harold Wilson
, yn uchel eu cloch fod angen newid termau aelodaeth y DU o fewn Ewrop a chynnal refferendwm. Lloriwyd y cynnig a daeth
Margaret Thatcher
(Ceidwadwr) yn Brif weinidog.
Newiddiodd y Blaid Lafur ei pholisiau.
O blaid aros
|
---|
| Theresa May
"Oherwydd diogelwch, er mwyn ein hamddiffyn rhag terfysgaeth ac oherwydd marchnata gydag Ewrop a marchnadoedd y byd, mae o ddiddordeb cenedlaethol i ni barhau yn aelod."
[10]
|
| Nicola Sturgeon
"Bluntly, I believe the groundswell of anger among ordinary people in Scotland in these circumstances could produce a clamour for another independence referendum which may well be unstoppable"
[11]
|
| Richard Branson
"Byddai'n hynod o niwediol i Brydain... a chredaf mai dyma fyddai dechrau y diwedd i'r Undeb Ewropeaidd."
|
| Emma Thompson
"Britain is a tiny little cloud-bolted, rain corner of sort-of Europe, a cake-filled misery-laden grey old island."
|
| George Osborne
"'Da ni'n well, yn saffach ac yn gryfach oddi fewn i Ewrop; y dewis arall ydy naid anferthol i'r tywyllwch."
|
|
Dyddiad
|
Aros
|
Gadael
|
Ansicr
|
Sampl
|
Canlyniad
|
7?11 Ebrill 2016
|
38%
|
39%
|
16%
|
1,011
|
YouGov
|
9?11 Chwefror 2016
|
37%
|
45%
|
18%
|
1,024
|
YouGov
|
21?24 Medi 2015
|
42%
|
38%
|
21%
|
1,010
|
YouGov
|
4?6 Mai 2015
|
47%
|
33%
|
16%
|
1,202
|
YouGov/ITV Wales
|
24?27 Medi 2015
|
44%
|
38%
|
14%
|
1,189
|
YouGov/ITV Wales
|
5?9 Medi 2015
|
43%
|
36%
|
17%
|
1,279
|
YouGov/ITV Wales
|
19?26 Chwefror 2015
|
63%
|
33%
|
4%
|
1,000
|
ICM/BBC
Archifwyd
2015-09-24 yn y
Peiriant Wayback
.
|
19?21 Ionawr 2015
|
44%
|
36%
|
16%
|
1,036
|
YouGov/ITV Wales
|
2?5 Rhagfyr 2014
|
42%
|
39%
|
15%
|
1,131
|
YouGov/ITV Wales
|
8?11 Medi 2014
|
43%
|
37%
|
15%
|
1,025
|
YouGov/ITV Wales
|
26 Mehefin?1 Gorffennaf 2014
|
41%
|
36%
|
18%
|
1,035
|
YouGov/ITV Wales
|
21?24 Chwefror 2014
|
54%
|
40%
|
6%
|
1,000
|
ICM/BBC
|
14?25 Mehefin 2013
|
29%
|
37%
|
35%
|
1,015
|
Beaufort Research
|