Kevin O’Higgins
|
---|
|
Ganwyd
| Kevin Christopher O'Higgins
7 Mehefin 1892
Stradbally
|
---|
Bu farw
| 10 Gorffennaf 1927
Booterstown
|
---|
Dinasyddiaeth
| Gweriniaeth Iwerddon,
Gwladwriaeth Rydd Iwerddon
,
Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon
|
---|
Addysg
| Baglor yn y Celfyddydau
|
---|
Alma mater
| |
---|
Galwedigaeth
| gwleidydd
, diplomydd
|
---|
Swydd
| Vice-President of the Executive Council of the Irish Free State, Gweinidog Cyfiawnder a Chyfartaledd Iwerddon, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Gweinidog Materion Tramor a Masnach,
Teachta Dala
,
Teachta Dala
,
Teachta Dala
,
Teachta Dala
,
Teachta Dala
|
---|
Plaid Wleidyddol
| Cumann na nGaedheal
|
---|
Roedd
Kevin Christopher O'Higgins
(
Gwyddeleg
Caoimhin O Criostoir hUiginn
;
7 Mehefin
1892
–
10 Gorffennaf
1927
) yn wleidydd o Iwerddon. Ganed Higgins yn Stradbally, Sir Laois. Lladdwyd ef gan gefnogwyr yr IRA ar 10 Gorffennaf 1927 yn Booterstown. Roedd yn weriniaethwr a gwladweinydd Gwyddelig bwysig yn natblygiad
Gwladwriaeth Rydd Iwerddon
.
Ganed O'Higgins yn 1892 yn fab i Thomas Francis Higgins (llofruddiwyd, 1923) ac Anne Sullivan (marw, 1953), merch Timothy Daniel Sullivan. Ef oedd y pedwerydd o 16 o blant. Roedd o deulu cenedlaetholgar gyda'i fam yn ferch i'r aelod seneddol genedlaetholaidd a golygydd y cylchgrawn genedlaetholgar,
The Nation
, Timothy Daniel Sullivan a modryb yn briod a'r aelod seneddol cenedlaetholaidd, Tim Healy. Mynychodd O'Higgins Coleg Clongowes Wood ac astudiodd yng
Ngholeg Prifysgol Dulyn
(UCD), lle graddiodd mewn Baglor yn y Celfyddydau yn 1915 a Baglor yn y Gyfraith yn 1919.
Yn 1915 ymunodd a mudiad parafilwrol, y Gwirfoddolwyr Gwyddelig (Irish Volunteers). Ar ddechrau
Gwrthryfel y Pasg
roedd O'Higgins yn sir Laois. Ymdrechodd i ymuno a'r Gwrthryfel yn syth ond bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w gynllun wedi iddo ond cyrraedd tref Athy, gan bod yr awdudrdodau Prydeinig yn gwrthod gadael i ddynion ifanc gael mynediad i Ddulyn. Yn 1918 roedd ymhlith y rhai a arestiwyd gan lywodraeth Prydain dan yr esgus o'r "Cynllun Almaeneg". Yn ystod ei amser yn y carchar, fe'i hetholwyd i
D?'r Cyffredin
yn Llundain.
[1]
Yn 1919 eisteddodd fel aelod
Teachta Dala
(aelod seneddol) i blaid
Sinn Fein
yn y
Dail Eireann
hanesyddol cyntaf. Daeth yn Weinidog Cynorthwyol dros Lywodraeth Leol dan
W.T. Cosgrave
. Pan gafodd ei garcharu yn 1920, fe gymerodd ei le a phrofi ei hun yn wleidydd galluog.
Roedd O'Higgins yn gefnogwr cryf i'r Cytundeb Eingl-Wyddelig, a arweiniodd yn y pen draw at sefydlu
Gwladwriaeth Rydd Iwerddon
. Ym mis Awst 1922 bu farw ddau o brif ffigurau'r mudiad annibyniaeth a chefnogwyr y Cytundeb,
Michael Collins
ac
Arthur Griffith
a daeth Cosgrave yn Arlywydd Dail Eireann a Chadeirydd Llywodraeth Dros Dro De Iwerddon. Gyda chreu y Wladwriaeth Rydd yn swyddogol ar 6 Rhagfyr 1922 Cosgrave oedd y Prif Weinidog cyntaf - y teitl swyddogol oedd Llywydd y Cyngor Gweithredol a daeth O'Higgins yn Weinidog dros Faterion Cartref (yn 1924, ailenwyd y swyddfa yn Weinidog Cyfiawnder ac yn Is-lywydd). Y ddwy swyddfa hyn a gynhaliodd hyd ei farwolaeth.
Fel Atwrnai Cyffredinol, ceisiodd sefydlogrwydd a gweithredodd bolisi llym yn ystod
Rhyfel Cartref Iwerddon
. Ymhlith pethau eraill, arwyddodd yr orchymyn dienyddio Rory O'Connor, a fu'n was priodas iddo lai na blwyddyn ynghynt. At ei gilydd, bu 77 dienyddiad o wrthryfelwyr i'r Cytuneb yn ystod y Rhyfel Cartref. Llofruddwyd tad O'Higgins fel dial am weithredoedd ei fab.
Yn 1923 sefydlodd O'Higgins y
Garda Siochana
fel heddlu Iwerddon. Yr hyn sy'n ryfeddol o gofio sefyllfa'r Rhyfel Cartref ar y pryd yw i'r heddlu fod yn ddi-arfog ac maent wedi parhau fel hynny hyd heddiw. Apwyntiodd
Eoin O'Duffy
yn Gomisiynydd cyntaf y Garda. Adnabwyd O'Duffy fel trefnydd a diolchir iddo am greu llu di-arfog, dinesig ac anwleidyddol, er, bod ethos
Gatholig
gref i'r llu newydd i'w wrthgyferbynu gyda'r Royal Irish Constabulary, yr hen heddlu o dan lywodraeth Prydain.
Disgrifiodd O'Higgins ei hun fel,
the most conservative-minded revolutionaries that ever put through a successful revolution.
[2]
[3]
Roedd O'Higgins yn geidwadol, er fel rhan o'r "Donnybrook Set" doedd ddim mor bleidiol i achosion megis yr iaith Wyddeleg, economeg
awtarcistaidd
a militariaeth.
[4]
Roedd ganddo feddwl isel o achosion asgell chwith; mewn ymateb i gwestiwn ar ei farn ar y bleidlais i fenywod dywedodd, "I would not like to pronounce an opinion on it in public." a bychannodd bolisiau cymdeithasol sosialaidd y 'Democratic Programme' a gynnwyswyd yn y Dail cyntaf fel "mostly poetry". Fel Gweinidog Materion Tramor llwyddodd i ennill rhagor o hunanlywodraeth i'r Iwerddon fel rhan o'r
Gymanwlad
Brydeinig, gwrthododd y tueddiad o fewn rhai sectorau o'i blaid, Cummann na nGaedheal at ddilyn llwybr
Ffasgaeth
Mussolini
.
[5]
Ar 10 Gorffennaf 1927 llofruddiwyd O'Higgins ar ochr Booterstown Avenue o Cross Avenue yn Nulyn, tra ar ei ffordd i'r Cymun yn Church of the Assumption, Blackrock. Llofruddwyd ef gan dri aelod IRA; Timothy Coughlin, Bill Gannon a Archie Doyle mewn dial am bolisi dienyddio O'Higgins. Derbyniodd angladd wladwriaethol a chladdwyd ef ar 13 Gorffennaf ym
Mynwent Glasnevin
.
Cofnodwyd cyfraniad O'Higgins fel un o sylfaenwyr
Gwladwriaeth Rydd Iwerddon
ar
gofail
a godwyd ar lawnt
T? Leinster
, cartref deddwrfa Iwerddon.
Dadorchuddiwyd cofeb bychan iddo ym mis Gorffennaf 2012, gan y
Taoiseach
,
Enda Kenny
ger y safle lle llofruddiwyd ef. Difrodwyd y plac o fewn wythnos wedi i rhywun daflu paent coch drosto ac yn ei ddifri drachefn. Tynnwyd y plac ymaeth ac nid yw wedi ei hail-godi.
[6]
Dilynodd nifer o deulu O'Higgins ei lwybr ym myd gwleidyddiaeth y Weriniaeth. Bu ei frawd, Thomas F. O'Higgins senior, a'i nai Thomas F. O'Higgins a Michael O'Higgins yn weithgar fel gwleidyddion.