Emynydd a bardd oedd
John Gruffydd Moelwyn Hughes
(
30 Mai
1866
?
25 Mehefin
1944
), neu "
Moelwyn
"; roedd yn frodor o
Dan-y-grisiau
, ger
Blaenau Ffestiniog
,
Gwynedd
.
Mab i chwarelwr ydoedd. Yn ei amser roedd yn un o weinidogion mwyaf adnabyddus y
Methodistiaid Calfinaidd
.
Ymddiddorai'n fawr yng ngwaith
Pantycelyn
a chyhoeddodd astudiaethau arno a'i waith.
Cyhoeddodd bedair cyfrol o farddoniaeth yn dwyn y teitl
Caniadau Moelwyn
(1893-1914). Roeddent yn boblogaidd iawn a chawsant eu hail-argraffu droeon. Yn ogystal cyhoeddwyd bumfed gyfrol,
Caneuon Olaf Moelwyn
yn
1955
, ar ol ei farwolaeth.
Roedd
O. M. Edwards
ymhlith ei edmygwyr. Mewn adolygiad o'r drydedd gyfres o
Ganiadau
mae'n dweud,
- "Darnau byrion llawn o feddylgarwch a naws. // Caniadau bychain dewisol ydynt: hoff gydymaith ar awr dawel fore Sabboth neu ryw hwyr, ac yn cynnwys rhai darnau geidw eu lle yn barhaol, tra teimlad Cymro y peth yw."
[
angen ffynhonnell
]
Canwyd ei emyn "Pwy a'm dwg i'r ddinas gadarn?" yng ngwasanaeth angladd
David Lloyd George
.
[
angen ffynhonnell
]