Math o rywogaeth o'r
genws
Homo
yw
Homo ergaster
(
Hen Roeg
:
?ργαστ?ρ
"dyn gweithiol") neu
Homo erectus Affricanaidd
sydd wedi dod i ben. Arferai fyw yn nwyrain a de
Affrica
yn ystod yr
epoc
Pleistosen
: rhwng 1.9-1.4 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (
CP
).
[1]
Pan holltwyd llinach y
Tsimpansi
, daeth
homininau
newydd i fodolaeth:
Homo ergaster
a
Homo erectus
. Yn dilyn darganfyddiadau newydd yn
Dmanisi
, yng ngwlad
Georgia
yn 2015, ceir carfan gref o
Paleoanthropolegwyr
sy'n credu na ddylai
Homo ergaster
fod ar wahan i
h. erectus
, ond yn hytrach mai'r un rhywogaeth ydynt mewn gwirionedd. Cafwyd nifer o
ffosiliau
a dadogir i'r rhywogaeth hon, a'r mwyaf nodedig yw'r ysgerbwd hwnnw a elwir yn "Fachgen Turkana" a ddarganfuwyd ger
Llyn Turkana
,
Cenia
sydd rhwng 1.5 a 1.6
CP
. Cafwyd ffosiliau hefyd yn
Tansania
,
Ethiopia
,
Cenia
, a
De Affrica
.
Bu
H. habilis
a
H. ergaster
yn cyd-fyw yn Affrica am bron i hanner miliwn o flynyddoedd, ac mae'n ymddangos (yn 2015) i'r ddau darddu o'r un hynafiad.
Bathwyd y cyfenw
ergaster
("gweithiol") yn 1975 gan Groves a Mazak oherwydd gallu
H. ergaster
i weithio offer llaw, am y tro cyntaf; dyma ddechrau'r hyn a elwir yn "dechnoleg Acheulean".
Defnyddiai
H. ergaster
offer llaw llawer mwy clyfar ac amrywiol na'i ragflaenydd
H. habilis
. Etifeddodd yr hen dechnoleg ("Oldowan") ac aeth ati i ddatblygu'r
fwyell
.
[2]
Dechreuodd
H. ergaster
greu'r bwyelli hyn 200,000 o flynyddoedd wedi iddo wahanu oddi wrth llinell y Tsimpansi. Mae'r dystiolaeth yn dechrau dangos mai ef hefyd oedd yr anifail cyntaf i gynnau a defnyddio tan i'w bwrpas ei hun, fel pob
hominin
a ddaeth ar ei ol.
[3]
Arhosodd
H. ergaster
yn Affrica am 500 mil o flynyddoedd ac yna ni cheir tystiolaeth ohono yno. Ni wyddys pan iddo 'ddiflannu' o Affrica 1.4 miliwn CP. Y rhywogaeth
H. heidelbergensis
sydd i'w weld yno ar ol hynny.
- ↑
"
Homo ergaster - Homo ergaster ("working man") is an extinct hominid species (or subspecies, according to some authorities) which lived throughout eastern and southern Africa between 1.9 to 1.4 million years ago with the advent of the lower Pleistocene and the cooling of the global climate.
"
. ScienceDaily
. Cyrchwyd
29 Hydref
2015
.
- ↑
Beck, Roger B.; Black, Linda; Krieger, Larry S.; Naylor, Phillip C.; Shabaka, Dahia Ibo (1999).
World History: Patterns of Interaction
. Evanston, IL: McDougal Littell.
ISBN
0-395-87274-X
.
CS1 maint: uses authors parameter (
link
)
- ↑
Goren-Inbar, Naama, et al.; Alperson, N; Kislev, ME; Simchoni, O; Melamed, Y; Ben-Nun, A; Werker, E (30 Ebrill 2004).
"
Evidence of Hominin Control of Fire at Gesher Benot Ya 'aqov, Israel
"
.
Science
304
(5671): 725?727.
Bibcode
2004Sci...304..725G
.
doi
:
10.1126/science.1095443
.
PMID
15118160
.
https://archive.org/details/sim_science_2004-04-30_304_5671/page/725
.