Casineb at
Iddewon
neu
ragfarn
yn eu herbyn yw
Gwrth-Semitiaeth
. Yn hanesyddol mae dwy brif ffurf ar wrth-Semitiaeth wedi bod: Gwrth-Semitiaeth Ganoloesol (neu Grefyddol), a Gwrth-Semitiaeth Fodern (neu Hiliol).
Gwrth-Semitiaeth Ganoloesol
[
golygu
|
golygu cod
]
Roedd hon wedi'i seilio ar y gred mai cymuned grefyddol oedd wedi mynd ar gyfeiliorn oedd yr
Iddewon
. Yn waeth na hynny, yng ngolwg gwrth-Semitiaid yr Oesoedd Canol, roedd yr
Iddewon
wedi dewis crwydro oddi ar y llwybr cywir, gan wrthod
Iesu Grist
fel Meseia, er ei fod e'n hanu o'u cenedl nhw. Ceir enghraifft ddiddorol iawn o'r meddylfryd hwn yn y
Gymraeg
yn llyfr dychanol
Ellis Wynne
,
Gweledigaethau'r Bardd Cwsg
, a gyhoeddwyd yn
1703
. Yn hwnnw, mae'r prif gymeriad yn cael ei dywys i "Eglwys yr Iddewon" lle mae'r addolwyr "yn methu cael y ffordd i ddianc o'r Ddinas Ddihenydd, er bod sbectol lwyd-olau ganddynt, am fod rhyw huchen wrth ysbio yn tyfu dros eu llygaid, eisiau eu hiro a'r gwerthfawr ennaint, ffydd."
Mae enghraifft weledol drawiadol iawn o Wrth-Semitiaeth Ganoloesol i'w chael yn Eglwys Gadeiriol
Strasbwrg
, dwyrain
Ffrainc
, lle mae cerfluniau o ddwy chwaer yn sefyll o boptu porth yr eglwys. Ar y naill law mae
ecclesia
(yr eglwys) yn gwisgo coron ac yn cario llond cwpan o waed
Crist
. Ar y llall, mae
synagoga
(yr addoldy Iddewig), yn gwisgo cadach dros ei llygad i ddangos ei bod wedi dewis bod yn ddall i wirionedd yr Efengyl.
Yn ystod yr Oesoedd Canol, arweiniodd credoau gwrth-Iddewig at gryn drais at Iddewon, yn enwedig yn ystod y
Croesgadau
. Enghraifft arswydus o hyn oedd yr ymosodiad gwaedlyd ar gymuned Iddewig
Caerefrog
, gogledd
Lloegr
, wrth iddynt geisio lloches yn Nh?r Clifford ym
1190
.
Mae hon wedi'i seilio ar y syniad mai hil yw'r Iddewon, a'u bod nhw fel hil neu genedl yn niweidiol i genhedloedd eraill. Yn rhan o hyn, mae cred bod Iddewon yn cydweithio gyda'i gilydd i reoli economi'r byd er eu mantais eu hunain. Roedd y fath wrth-Semitiaeth yn ffasiynol iawn yn yr
1920au
a'r
1930au
, gan gael ei hybu gan bobl ddylanwadol fel
Henry Ford
. Cafodd ei fynegi yn
Gymraeg
gan
Saunders Lewis
yn ei gerdd
Y Dilyw
, lle bwriodd y bai ar fancwyr
Iddewig
am greu argyfwng economaidd yr 1930au: "Penderfynodd y duwiau...a'u ffroenau Hebreig yn ystadegau'r chwarter, ddod y dydd i brinhau credyd drwy fydysawd aur."
Cyrhaeddodd Gwrth-Semitiaeth Fodern ei phenllanw ar ffurf
Natsiaeth
yr Almaen
, pan welwyd ymgais i lofruddio'r cyfan o boblogaeth
Iddewig
Ewrop
.
Yn hanesyddol mae'r gwledydd
Islamig
ac Arabaidd wedi bod yn fwy goddefol tuag at yr Iddewon na'r gwledydd Ewropeaidd Cristnogol. Yn yr Oesoedd Canol, pan erlidid Iddewon ar draws Ewrop, roedd cymunedau o Iddewon - a Christnogion hefyd - yn byw mewn dinasoedd fel
Jerwsalem
a
Damascus
ochr yn ochr a'r Mwslimiaid. Yn ddiweddar mae rhai gwleidyddion, fel
Mahmoud Ahmadinejad
, Arlywydd
Iran
, wedi cael eu cyhuddo o wrth-Semitiaeth.
Er bod Gwrth-Semitiaeth weithiau wedi bod yn dreisgar iawn, yn enwedig yn Nwyrain
Ewrop
, dim ond un enghraifft o drais gwrth-Iddewig difrifol sydd wedi'i chofnodi yng
Nghymru
. Bu terfysg gwrth-Iddewig yn
Nhredegar
yn
1911
, pan ymosododd torf ar siopau
Iddewon y dref
gan ganu emynau
Cristnogol
. Er nad anafwyd neb yn gorfforol, difrodwyd siopau ac eiddo eraill yn
Nhredegar
,
Glyn Ebwy
,
Y Cwm
a
Bargoed
.
Defnyddir arwyddlun y
swastica
yn aml fel ffordd amlwg, syml o ddangos teimladau gwrth-semitig. Caiff y swastica ei baentio ar feddau ac eiddo Iddewon er mwyn dangos gwrthwynebiad neu atgasedd tuag at y gymuned, ac i godi ofn ar Iddewon.