El Salfador
|
Republica de El Salvador
|
|
Arwyddair
| Duw, Undod, Rhyddid
|
---|
Math
| gwladwriaeth sofran,
gwlad
|
---|
Enwyd ar ol
| y Gwaredwr
|
---|
|
Prifddinas
| San Salvador
|
---|
Poblogaeth
| 5,744,113
|
---|
Sefydlwyd
| 1810 (Annibyniaeth oddi wrth
Sbaen
)
15 Medi 1821 (cydnabod gan Sbaen)
|
---|
Anthem
| Himno Nacional de El Salvador
|
---|
Pennaeth llywodraeth
| Nayib Bukele
|
---|
Cylchfa amser
| UTC?06:00, America/El_Salvador
|
---|
Iaith/Ieithoedd
swyddogol
| Sbaeneg
|
---|
Daearyddiaeth
|
---|
Rhan o'r canlynol
| America Ladin
,
Canolbarth America
, America Sbaenig
|
---|
Gwlad
| El Salfador
|
---|
Arwynebedd
| 20,742 ±1 km²
|
---|
Yn ffinio gyda
| Hondwras
,
Gwatemala
|
---|
Cyfesurynnau
| 13.66889°N 88.86611°W
|
---|
Gwleidyddiaeth
|
---|
Corff gweithredol
| Llywodraeth El Salfador
|
---|
Corff deddfwriaethol
| Cynulliad Deddfwriaethol
|
---|
Swydd pennaeth
y wladwriaeth
| Arlywydd El Salfador
|
---|
Pennaeth y wladwriaeth
| Nayib Bukele
|
---|
Swydd pennaeth
y Llywodraeth
| Arlywydd El Salfador
|
---|
Pennaeth y Llywodraeth
| Nayib Bukele
|
---|
|
|
Ariannol
|
---|
Cyfanswm CMC (
GDP
)
| $29,451 million, $32,489 million
|
---|
Arian
| doler yr Unol Daleithiau
,
Bitcoin
|
---|
Canran y diwaith
| 6 ±1 canran
|
---|
Cyfartaledd plant
| 1.931
|
---|
Mynegai Datblygiad Dynol
| 0.675
|
---|
|
|
Gweriniaeth
Sbaeneg
yng
Nghanolbarth America
sy'n ffinio a'r
Cefnfor Tawel
i'r de,
Gwatemala
i'r gorllewin, ac
Hondwras
i'r gogledd a'r dwyrain yw
Gweriniaeth El Salfador
neu
El Salvador
(Sbaeneg:
Republica de El Salvador
,
/re'puβlika
ðe
el
salβa'ðor/
).
Gorchfygwyd El Salfador, oedd yn rhan o'r
Deyrnas Astecaidd
, gan y
Sbaenwyr
yn
1526
, ac enillodd
annibyniaeth
yn
1821
. Roedd yn aelod o
Ffederasiwn Canolbarth America
tan ei ddiddymiad yn
1839
, a daeth yn
weriniaeth
yn
1841
. Yng nghanol
yr ugeinfed ganrif
rheolwyd y wlad gan
unbenaethau
a dioddefodd o ansefydlogrwydd gwleidyddol. Bu wrthdaro a
Hondwras
yn
1965
ac yn
Rhyfel Pel-droed
1969
. Parhaodd yr ansefydlogrwydd gwleidyddol i'r
1970au
gyda gweithredoedd
herwfilwrol
yn erbyn y llywodraeth a gefnogwyd gan
yr Unol Daleithiau
. Yn dilyn
bradlofruddiaeth
Archesgob El Salfador
Oscar Romero
yn
1980
dechreuodd
Rhyfel Cartref El Salfador
, lle bu farw 75 000 a daeth nifer yn
ffoaduriaid
. Arwyddwyd cytundeb heddwch yn
1992
; o dan delerau'r cadoediad cydnabuwyd y gr?p herwfilwrol
asgell chwith
Frente Farabundo Marti para la Liberacion Nacional
(FMLN) fel
plaid wleidyddol
ac aethant ymlaen i ennill seddi yn
etholiadau deddfwriaethol 1994
, pan ddaeth yr
Alianza Republicana Nacionalista
(ARENA)
asgell dde
i rym. Achosodd
ddaeargrynfeydd
difrod eang yn
2001
.
Llywodraethir El Salfador gan
Arlywydd
a etholir pob pum mlynedd, a
Chynulliad Cenedlaethol
democrataidd gyda 60 o aelodau.
Mae dwy gadwyn
folcanig
sy'n llwybro o ddwyrain i orllewin El Salfador yn rhannu'r wlad yn dri rhanbarth daearyddol: llain gul arfordirol yn y de,
dyffrynnoedd
a
llwyfandiroedd
ucheldirol gydag uchder cyfartalog o 600 m yng nghanolbarth y wlad, a
mynyddoedd
yn y gogledd (gyda
Santa Ana
(2381 m) fel man uchaf y wlad). Mae'r
Afon Lempa
, sy'n croesi ffin ogleddol El Salfador a Hondwras a gyda'i tharddle yng
NGwatemala
, yn rhedeg yn ddeheuol trwy'r wlad i'r
Cefnfor Tawel
. Mae nifer o
lynnoedd folcanig
yn El Salfador, ac mae daeargrynfeydd yn gyffredin. El Salfador yw'r unig wlad yng Nghanol America heb arfordir ar
Gefnfor yr Iwerydd
.
Rhannir El Salfador yn 14 o
adrannau
(
departamentos
), a phob un adran wedi'i isrannu'n 267 o
fwrdeistrefi
(
municipios
). Yr adrannau yw:
Mae tua 7 miliwn o bobl yn byw yn El Salfador; 90% ohonynt yn
mestizo
(
hil gymysg
), 9% yn
wyn
ac 1% yn
frodorol
. El Salfador yw'r wlad gyda'r
dwysedd poblogaeth
mwyaf yng Nghanolbarth America (318.7/km²). Mae 62% o'r boblogaeth yn byw mewn
ardaloedd trefol
a 38% yn byw yng
nghefn gwlad
.
[1]
Mae 80% o Salfadoriaid yn
Gatholigion Rhufeinig
, 18% yn
efengylaidd
a 2% yn grefydd arall neu ddim yn dilyn crefydd o gwbwl.
[1]
[1]
Mae nifer y
twristiaid
sy'n ymweld ag El Salfador wedi cynyddu yn sgil dyfodiad
heddwch
i'r wlad yn y blynyddoedd diweddar, gyda'r mwyafrif yn dod i fwynhau cyrchfannau arfordirol a
thraethau
El Salfador. Ond mae
trosedd
,
daeargrynfeydd
a chostau uchel am ystafelloedd a theithiau awyr dal i rwystro'r diwydiant.
Bu nifer y twristiaid yn cynyddu 29% yn
2002
i 951 000 o ymwelwyr, tua un am bob 6.8 Salfadoriad. Daeth 31% ohonynt o
Gwatemala
, 22% o
Unol Daleithiau America
, 17% o
Hondwras
a'r 30% gweddill o wledydd eraill.
[1]
Seilir cyfundrefn
addysg
El Salfador ar yr un Americanaidd. Y lefel
llythrennedd
yw 79%; mae addysg wedi'i chyfyngu mewn ardaloedd gwledig. Mae gan El Salfador 118 491 o fyfyrwyr (
2004
), a'r oedran i adael ysgol yw 15.
- ↑
1.0
1.1
1.2
1.3
Financial Times World Desk Reference
(Dorling Kindersley, 2004)