- Gall
Calan
hefyd gyfeirio at y dydd cyntaf o'r mis:
Calan Mai
,
Calan Gaeaf
Dydd Calan
yw'r enw ar gyfer diwrnod cyntaf y flwyddyn, sef
1 Ionawr
. Gall y gair "calan" hefyd gyfeirio at ddydd cyntaf mis. Arferid credu nifer o goelion a oedd yn berthnasol i'r diwrnod cyntaf o'r flwyddyn e.e. arwyddocad y person cyntaf i ddod dros trothwy'r drws. Ym
Mhenfro
aethpwyd a d?r o gwmpas y tai i'w ddiferyd dros y trigolion i sicrhau hapusrwydd am weddill y flwyddyn. Roedd
hel calennig
yn arferiad drwy Gymru benbaladr. Mewn ardaloedd eraill yr arferiad oedd i ddyn penddu ymweld a'r t? efo darn o lo; deuai hyn a lwc dda i'r trigolion.
Yn
1752
newidiwyd y dyddiad i'r un presennol; cyn hynny diwrnod cynta'r flwyddyn oedd
13 Ionawr
[1]
. Mae rhai ardaloedd yn dal i ddathlu'r
Hen Galan
e.e.
Cwm Gwaun
a
Llandysul
ar sail yr hen galendr Iwlaidd gafodd ei ddisodli ym
1752
gan galendr Gregori.
[2]
Dyma rai penillion sy’n cael eu canu ar
13 Ionawr
:
- Mae dydd Calan wedi gwawrio
- Dydd tra hynod yw i gofio,
- Dydd i roddi, dydd i dderbyn,
- Yw’r trydydd dydd ar ddeg o’r flwyddyn.
- Rhowch yn hael i rai gwael,
- Rhowch yn hael i rai gwael,
- Pawb sy’n ffyddlon i roi rhoddion
- Yw’r rhai hynny sydd yn cael.
[3]
Mae'r gair "calan" yn dod o'r gair
Lladin
calendae
"y galwedig", yr enw ar gyfer diwrnod cyntaf pob mis yn y calendr Rhufeinig.