Seiclwr proffesiynol
Cymreig
oedd
Colin Lewis
(
27 Gorffennaf
1939
–
4 Mawrth
2022
). Dechreuodd Seiclo yn 19 oed. Dewiswyd ef i gystadlu yn
Milk Race
1960
a gorffenodd yn seithfed safle. Cystadleuodd drost Brydain yn
Tour de L'Avenir
a Phencampwriaethau'r Byd,
San Sebastiien
[1]
. Bu'n aelod o'r un tim ac yn rhannu ystafell a
Tom Simpson
cyn ei farwolaeth yn
1967
oherwydd
defnydd cyffuriau
[2]
. Roedd Colin wedi cyfaddef yn
1966
mai'r rheswm nad oedd wedi ymuno a thim proffesiynol
Ewropeaidd
ar y pryd, oedd oherwydd nad oedd eisiau urhywbeth i'w wneu'd a'r diwylliant o defnyddio cyffuriau a oedd yn bodoli ar y pryd
[3]
. Colin oedd y Seiclwr Cymreig ddiwethaf i reidio'r
Tour de France
yn
1968
tan
Geraint Thomas
yn
2007
.
Cyrhaeddodd uchafbwynt ei yrfa yng
Ngemau Olympaidd
Tokyo
yn
1964
. Yno, ef oedd y seiclwr Prydeinig a orffenodd yn y safle uchaf pan orffenodd Ras Ffordd Dynion Unigol mewn amser o 4:39:51.74, a gorffen yn 25ed safle. Yng
Ngemau'r Gymanwlad
yn
Jamaica
, methodd ar y cyfle o ennill medal.
Trodd yn broffesiynol yn 1967, a gorffennodd y
Tour de France
dros dim cenedlaethol Prydain. Ef yw'r unig seiclwr i ennill dau buddugoliaeth canlynol ym
Mhencampwriaethau Cenedlaethol Rasio Ffordd Proffesiynol
yn
Essex
, yn
1967
a
1968
.
Erbyn iddo ymddeol roedd wedi ennill 250 o fuddugoliaethau, 38 o rheiny tra'n broffesiynol, gan gynnwys y
Golden Wheel Trophy
a'r
Linz am Rhine
[1]
.
Roedd Colin yn benderfynnol o gario 'mlaen i ymwneud a'r byd seiclo ar iddo ymddeol, felly yn 1976 sefydlodd Deliwraeth feics Colin Lewis. Pan ddaeth yn berchennog y siop feics, gwnaethwyd ef yn reolwr Cylchffordd Seiclo Eastway yn
Hackney
, a gwariodd y 7 mlynedd canlynol fel Cyfarwyddwr Hyfforddi, Canolfan Rhagoriaeth y De Ddwyrain
[1]
.
Erbyn hyn mae'n byw yn
Nyfnaint
gyda'i wraig Pam, ac yn llywydd
Mid-Devon Cycling Club
[2]
. Bydd yn Hyfforddwr ar deithiau EuroCycler ar draws
Sbaen
.