Gr?p
pop
Seisnig ydy
Take That
. Aelodau'r gr?p yw Gary Barlow, Howard Donald, Jason Orange, Mark Owen, ac roedd
Robbie Williams
yn aelod gynt hefyd. Ar ol llwyddiant ysgubol ar ddechrau tan ganol y 1990au fel gr?p pum aelod, ail-ffurfiwyd y band fel gr?p pedwar aelod yng nghanol y 2000au heb Williams.
Take That yn y dyddiau cynnar
Ffurfiwyd y band gan Nigel Martin Smith ym
Manceinion
ym 1990 a gwerthodd y band dros 30 miliwn o recordiau rhwng 1991?1996. Ers rhyddhau eu sengl cyntaf ym 1991 i'r cyfnod pan wahanodd y band ym 1996, disgrifiodd y
BBC
y gr?p fel "y band Prydeinig mwyaf llwyddiannus yn y Deyrnas Unedig ers The Beatles, sy'n apelio i'r hen a'r ifanc ar yr un pryd". Domineiddodd caneuon pop a chaneuon serch Take That y siartiau Prydeinig yn hanner cyntaf y 1990au, gan greu dwy o'r albymau a werthodd orau y degawd honno sef
Everything Changes
(a enwebwyd am
Wobr Mercury
ym 1994)
[1]
a
Greatest Hits
yn 1996. Yn ol Allmusic "roeddent yn serennau awr yn Ewrop ar y pryd, a'r unig gwestiwn oedd, nid a allent gael sengl llwyddiannus, ond faint ohonynt fuasai'n cyrraedd rhif un ar y siartiau."
Gwahanodd y band ym 1996, ond ar ol
rhaglen ddogfen
yn 2005 a rhyddhau albwm o'u caneuon gorau, cyhoeddwyd yn swyddogol y byddent yn ail-ffurfio fel gr?p i wneud taith o amgylch y
Deyrnas Unedig
. Galwyd y daith yn
The Ultimate Tour
. Ar 9 Mai cyhoeddwyd bod Take That yn bwriadu recordio eu halbwm stiwdio cyntaf mewn dros deng mlynedd o'r enw
Beautiful World
. Aeth y band ymlaen i gynhyrchu taith arall yn 2007 sef
The Beautiful World Tour
, cyfres o gyngherddau a werthodd allan yn llwyr. Cafwyd ymateb cadarnhaol iawn wrth y beirniaid a dyma yw eu taith sydd wedi gwerthu orau hyd yn hyn.