Ganwyd Crabb yn
Inverness
, yr
Alban
[3]
gydag un rhiant yn Albanwr a'r llall yn Gymraes. Magwyd ef a'i ddau frawd gan ei fam ar ystad o dai cyngor ym
Mhenfro
.
[3]
Ym
Mhrifysgol Bryste
y cyfarfu a'i wraig Beatrice.
[4]
ac oddi yno aeth i
Ysgol Fusnes Llundain
ble y graddiodd gydag
MBA
. Yr un pryd, astudiodd
Ffrangeg
gyda'r
Brifysgol Agored
.
[5]
[5]
Wedi iddo adael Prifysgol Bryste, cychwynodd weithio i elusen
National Council for Voluntary Youth Services
gan weithio'n rhan amser fel gweithiwr ieuenctid yn ne Llundain. Yn 1998 cychwynodd weithio yn y
London Chamber of Commerce
gan gael ei benodi i swydd ymgynghorydd marchnata yn 2002.
Ymgeisodd am swydd arweinydd y Blaid Geidwadol yn Mehefin 2016 gan dynnu allan er mwyn cefnogi
Theresa May
pan ddaeth yn amlwg nad oedd am gael y pleidleisiau angenrheidiol. Ar 14 Gorffennaf 2016 wrth i'r prif weinidog newydd Theresa May ad-drefnu'r cabinet, fe ymddiswyddodd fel Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau "er lles ei deulu" yn dilyn adroddiadau papur newydd am ei fywyd personol yn yr wythnosau cynt.
[6]