Fe'i anwyd yn
Nulyn
ar y 30eg o Fawrth, 1880 i deulu tlawd. Bu farw tad O'Casey pan oedd yn chwech oed ac oherwydd nam ar ei olwg prin y cafodd addysg ffurfiol. Gadawodd yr ysgol yn 14 oed a gweithiodd ar y rheilffordd am gyfnod. Priododd yr actores Eileen Carey Reynolds yn 1927 tra yn
Llundain
ac fe anwyd dau fab ac un ferch iddynt. Bu farw ar y 18fed o Fedi 18ed 1964 yn
Torquay
,
Lloegr
.
Ysgrifennodd ddramau o hyn ymlaen ar themau Gwyddelig. Cafwyd ymateb ffyrnig yn erbyn
The Plough and the Stars
(1926); debyg i'r terfysg yn erbyn
John Millington Synge
a'i
The Playboy of the Western World
yn 1907. Roedd rhyw a chrefydd yn drech na'r moesau ar y pryd. Ond y peth cryfa yn ei erbyn oedd aralleirio geiriau
Padraig Pearse
a fflangellu'r hyn a ystyriai fel "holl ffug-rhamanteiddio" arwyr
Gwrthryfel y Pasg
. (
Gwyddeleg
:
Eiri Amach na Casca
). Enillodd ddigon o elynion wedyn.
Daeth i Brydain, byth i ddychwelyd i fyw yn Iwerddon, yn 1927 er mwyn derbyn y wobr Hawthornden ac i gynhyrchu
Juno and the Paycock
, ac yn 1928 gwrthododd ei ddrama
The Silver Tassie
gan
W. B. Yeats
ar gyfer
Theatr yr Abaty
Dulyn, felly llwyfanodd y ddrama yn Llundain efo set gan
Augustus John
. Arhosodd yn Lloegr. Ysgrifennodd
The Star Turns Red
(1940), drama a seilwyd ar fywyd yr undebwr
James Larkin
) ac sy'n feirniadaeth lem ar gymdeithas Iwerddon a'r
Eglwys Gatholig Rufeinig
yn arbennig. Wedi ei farwolaeth aeth ei bapurau dros y byd, yn cynnwys casgliadau yn
Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd
,
Llyfrgell Prifysgol Cornell
,
Llyfrgell T?'r Senedd, Prifysgol Llundain
, a
Llyfrgell Genedlaethol Iwerddon
.
- Lament for Thomas Ashe
(1917), dan y fersiwn Gwyddeleg o'i enw Sean O'Cathasaigh
- The Story of Thomas Ashe
(1917), dan y fersiwn Gwyddeleg o'i enw Sean O'Cathasaigh
- Songs of the Wren
(1918), dan y fersiwn Gwyddeleg o'i enw Sean O'Cathasaigh
- More Wren Songs
(1918), dan y fersiwn Gwyddeleg o'i enw Sean O'Cathasaigh
- The Harvest Festival
(1918)
- The Story of the Irish Citizen Army
(1919), dan y fersiwn Gwyddeleg o'i enw Sean O'Cathasaigh
- The Shadow of a Gunman
(1923)
- Kathleen Listens In
(1923)
- Juno and the Paycock
(1924)
- Nannie's Night Out
(1924)
- The Plough and the Stars
(1926) (fersiwn Llydaweg:
An Arar hag ar Stered
1993)
- The Silver Tassie
(1927)
- Within the Gates
(1934)
- The End of the Beginning
(1937)
- A Pound on Demand
(1939)
- The Star Turns Red
(1940)
- Red Roses for Me
(1942)
- Purple Dust
(1940/1945)
- Oak Leaves and Lavender
(1946)
- Cock-a-Doodle Dandy
(1949)
- Hall of Healing
(1951)
- Bedtime Story
(1951)
- Time to Go
(1951)
- The Bishop's Bonfire
(1955)
- A Sad Play within the Tune of a Polka
(1955)
- The Drums of Father Ned
(1959)
- Behind the Green Curtains
(1961)
- Figuro in the Night
(1961)
- The Moon Shines on Kylenamoe
(1961)
- Niall: A Lament
(1991)
- Hunangofiant (6 cyfrol):
Mirror in my House
1965.
- I Knock at the Door
- Pictures in the Hallway
- Drums Under the Window
- Inishfallen Fare Thee Well
- Rose and Crown
- Sunset and Evening Star
- Krause, David.
Sean O'Casey and his World
. New York: C. Scribner's, 1976.
ISBN 0-5001305-5-8
- Irish Writers on Writing
featuring Sean O'Casey. Edited by Eavan Boland?; Trinity University (Texas) Trinity University Press, 2007.
- Schrank, Bernice.
Sean O'Casey: A Research and Production Sourcebook
. Greenwood Press, 1996.
ISBN 0-313-27844-X