Hyfforddwr a chyn-chwaraewr Rygbi'r Undeb yw Robert Howley (ganed 13 Hydref 1970 ). Mae ar hyn o bryd yn hyfforddwr ymosodol i Dim rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru .
Ganed ef ym Mhen-y-bont ar Ogwr , a bu'n chwarae i Ben-y-bont ar Ogwr, Clwb Rygbi Caerdydd a Wasps . Chwaraeodd ei gem gyntaf dros Gymru yn 1996 yn erbyn Lloegr . Enillodd 59 cap dros Gymru fel mewnwr , 22 ohonynt fel capten. Chwaraeodd mewn pedair gem yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn 1999 .
Dewiswyd ef ar gyfer taith y Llewod i Dde Affrica yn 1997, ond cafodd ei anafu. Aeth ar daith i Awstralia gyda'r Llewod yn 2001 , a chwaraeodd mewn dwy gem brawf cyn cael ei anafu eto. Ymddeolodd fel chwaraewr yn 2004 .