Prifysgol yn New Haven , Connecticut , yn Unol Daleithiau America , ydy Prifysgol Yale (Saesneg: Yale University ). Mae'n un o'r prifysgolion mwyaf eu bri yn yr Unol Daleithiau, yn aelod o'r Ivy League ynghyd a Harvard , Princeton ac eraill. Fe'i sefydlwyd ym 1701 fel coleg ddiwynyddol, y "Collegiate School". Ym 1718 fe'i ailenwyd yn "Yale College" i gydnabod rhodd gan Elihu Yale , rheolwr ar gyfer Cwmni India'r Dwyrain ym Madras . Er iddo gael ei eni yn yr Unol Daleithiau roedd gan Elihu Yale gysylltiadau Cymreig cryf at ardal Ial ac fe'i gladdwyd ym mynwent Eglwys San Silyn yn Wrecsam .