한국   대만   중국   일본 
Marco Polo - Wicipedia

Masnachwr a fforiwr o'r Eidal oedd Marco Polo ( ?marko ?p?ːlo ; 15 Medi 1254 ? 8 Ionawr 1324 ). Aeth ar daith hir dros Asia i Tsieina yng nghyfnod Brenhinllin Yuan , gan ddilyn Llwybr y Sidan o arfordir dwyreiniol y Mor Canoldir a thrwy Ganolbarth Asia a Mongolia i Tsieina. [1] [2] Cofnodwyd ei deithiau yn Livres des merveilles du monde ("Llyfr Rhyfeddodau'r Byd") gan Rustichello da Pisa , llyfr a gyflwynodd Canol Asia a Tsieina i'r Ewropeaid.

Marco Polo
Ganwyd 15 Medi 1254? Edit this on Wikidata
Fenis  Edit this on Wikidata
Bu?farw 8 Ionawr 1324, 1324? Edit this on Wikidata
Fenis  Edit this on Wikidata
Galwedigaeth masnachwr, fforiwr , diplomydd, llysgennad , teithiwr byd, ysgrifennwr , teithiwr, entrepreneur, bywgraffydd? Edit this on Wikidata
Adnabyddus?am The book of Ser Marco Polo the Venetian concerning the kingdoms and marvels of the East? Edit this on Wikidata
Tad Niccolo Polo? Edit this on Wikidata
Priod Donata Badoer? Edit this on Wikidata
Plant Fantina Polo, Agnese? Edit this on Wikidata
Perthnasau Maffeo Polo? Edit this on Wikidata

Dysgodd y grefft o farchnata gan ei dad a'i ewyrth (Niccolo a Maffeo Polo) a deithiodd drwy Asia ac a ddaethant wyneb yn wyneb gyda Kublai Khan . Yn 1269 y cychwynodd y tri eu taith gan ddychwelyd 24 blynedd yn ddiweddarach ? i ganol rhyfel rhwng Fenis a Genova . Carcharwyd Marco a llefarodd ei helyntion yn Asia wrth ei gyd-carcharor Rusticello da Pisa, a gofnododd y cyfan ar ei ran. Cafodd ei ryddhau yn 1299 a daeth yn fasnachwr cyfoethog; priododd a chawsant dri o blant. Bu farw yn 1324 ac fe'i claddwyd yn Eglwys San Lorenzo, Fenis.

Cyfeiriadau

golygu
  1. William Tait, Christian Isobel Johnstone (1843), Tait's Edinburgh magazine , Cyfrol 10 , Edinburgh
  2. Hinds, Kathryn (2002), Venice and Its Merchant Empire , Efrog Newydd
    Eginyn erthygl sydd uchod am Eidalwr neu Eidales . Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato .