Teulu o arglwyddi yn y Mers oedd y
Lancastriaid
, un o'r ddwy blaid yn
Rhyfeloedd y Rhosynnau
yng
Nghymru
a
Lloegr
ganol y
15g
. Eu gelynion oedd yr
Iorciaid
. Roedd y rhan fwyaf o'r
Cymry
, fel
Siasbar Tudur
, yn cefnogi'r Lancastriaid a Chymru a Gogledd Lloegr oedd y ddau gadarnle pwysicaf yn eu hymdrech i gipio
Coron Lloegr
.
Arfbais llinach y Lancastriaid.
Yn 1267 y dechreuodd eu cysylltiad a
Chymru
, pan roddodd
Harri III, brenin Lloegr
arglwyddiaethau Mynwy a Theirtref (Y Castell Gwyn, Ynysgynwraidd a'r Grysmwnt) i'w fab Edmund, Iarll Lancaster (marw 1296). Trosglwyddwyd yr arglwyddiaeth, yn dilyn ei farwolaeth i'w fab Thomas a feddiannodd hefyd Arglwyddiaeth Dinbych trwy ei briodas ag Alice, merch ac aeres Henry de Lacy, Iarll Lincoln. Yn 1322 dienyddiwyd Thomas ond adfeddiannodd ei fab Teirtref a Mynwy, cyn iddo briodi Maud, aeres Patrick de Chaworth, a thrwy hyn daeth Henry yn arglwydd Cydweli, Is-Cennen ac Ogwr. Ei wyres a etifeddodd ei ystad, gwraig John o Gawnt, dug Lancaster, mab
Edward III, brenin Lloegr
.
[1]
Pan ddaeth eu mab
Harri IV
yn frenin yn 1399 trosglwyddwyd yr arglwyddiaethau i'r Goron. Yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau roedd yr arglwyddiaethau Cymreig yn allweddol i ymgyrch y Lancastriaid, gan eu bod yn cysylltu tiroedd dug Efrog yn
Iwerddon
a chadarnleoedd yr Iorcwyr yn lloegr a De Cymru.
- ↑
Gwyddoniadur Cymru
; Gwasg Prifysgol Cymru (2008); adalwyd 23 Rhagfyr