한국   대만   중국   일본 
Joe Biden - Wicipedia

Joe Biden

46ain arlywydd yr Unol Daleithiau

Gwleidydd Americanaidd a 46eg Arlywydd yr Unol Daleithiau yw Joseph Robinette "Joe" Biden, Jr. (ganwyd 20 Tachwedd 1942 ). Fe'i sefydlwyd ar 20 Ionawr 2021. Bu'n seneddwr dros dalaith Delaware o 3 Ionawr 1973 hyd 15 Ionawr 2009. Ymgeisiodd gyda Barack Obama yn etholiad arlywyddiaeth UDA yn 2008. Ar 20 Ionawr 2009 olynodd Dick Cheney i ddod yn Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau . Enillodd Obama ag ef ail dymor yn 2012.

Joe Biden
Joe Biden


Deiliad
Cymryd?y?swydd
20 Ionawr 2021
Is-Arlywydd(ion)?? Kamala Harris
Rhagflaenydd Donald Trump

Cyfnod?yn?y?swydd
20 Ionawr 2009 ??? 20 Ionawr 2017
Rhagflaenydd Dick Cheney
Olynydd Mike Pence

Cyfnod?yn?y?swydd
3 Ionawr 1973 ??? 15 Ionawr 2009
Rhagflaenydd J. Caleb Boggs
Olynydd Ted Kaufman

Geni 20 Tachwedd 1942
Scranton , Pennsylvania , UDA
Plaid?wleidyddol Democratwr
Priod Neilia Hunter (1966?1972)
Jill Biden (priod 1977)
Plant Joseph "Beau", Robert "Hunter", Naomi ac Ashley

Ymgeisyddiaeth arlywyddol 2020

golygu

Ceisiodd ddod yn ymgeisydd dros y Democratiaid i Arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau yn 1988 a 2008 ond ni lwyddodd ennill yr enwebiad. Yn Ebrill 2019, cyhoeddodd Biden ei fod yn ymgeisio am yr Arlywyddiaeth yn 2020, ac ym Mehefin 2020 sicrhaodd ddigon o enwebiadau y tro hwn i ddod yn ymgeisydd y Democratiaid. [1] Ar 11 Awst, dewisodd y Seneddwr Kamala Harris o Galiffornia fel ei bartner yn y ras. [2]

Oherwydd y pandemig coronafirws anogwyd pleidleiswyr Democrataidd i bleidleisio yn gynnar a drwy'r post neu 'dropbox' yn hytrach nac ar y diwrnod. I'r gwrthwyneb, anogodd yr Arlywydd Trump ei gefnogwyr i bleidleisio yn y cnawd gan ddrwgdybio y broses o bleidleisiau post. Mewn rhai taleithiau nid oedd hawl cyfreithiol i gyfri'r papurau pleidleisio hynny o flaen llaw. Erbyn diwrnod yr etholiad roedd miliynau o bleidleisiau i'w cyfri a cymerodd hyn drwy'r wythnos i'w cyfri a gwirio. Cyfrifwyd pleidleisiau a fwriwyd ar y diwrnod i ddechrau, ac roedd mwyafrif y rheiny ar gyfer yr Arlywydd Trump. Felly roedd Trump i weld yn arwain y ras mewn sawl talaith nes i'r pleidleisiau post gael eu cyfri. Cafwyd sawl honiad gan Trump fod y broses etholiadol yn 'llwgr' ond ni gyflwynwyd unrhyw dystiolaeth o hynny. [3]

Ar y dydd Sadwrn, 7 Tachwedd 2020, daeth cyhoeddiad am bleidleisiau a gyfrwyd yn Philadelphia, Pennsylvania . Cyfrifwyd felly fod Biden wedi ennill y dalaith gyda mwyafrif o dros 0.5% a felly sicrhau dros 270 pleidlais yn y coleg etholiadol. [4]

Erbyn Ionawr 2021, roedd Biden wedi ennill dros 81 miliwn pleidlais, y nifer mwyaf o bleidleisiau i Arlywydd yr U.D.A. mewn hanes. Cafodd Arlywydd Trump 74 miliwn pleidlais, yr ail nifer mwyaf o bleidleisiau. Roedd y niferoedd uchel yn bennaf am fod nifer fawr wedi pleidleisio drwy'r post. [5]

Mewn cyfarfod o Gyngres yr Unol Daleithiau ar 6 Ionawr 2021, y bwriad oedd casglu a chyfri'r pleidleisiau gan etholwyr bob talaith, er fod disgwyl i sawl aelod o'r Gweriniaethwyr i wrthod pleidleisiau rhai taleithiau. Yn gynharach yn y diwrnod, roedd yr Arlywydd Trump wedi annerch torf o'i gefnogwyr o flaen y T? Gwyn, a'i annog i orymdeithio i adeilad Capitol Hill i brotestio mai fod yr Etholiad yn 'dwyll' ac mai ef oedd yn fuddugol. Tra fod y Gyngres yn cyfarfod, llwyddodd nifer o gefnogwyr Trump i dorri fewn a meddiannu adeilad y Capitol, gan falurio swyddfeydd y Seneddwyr. Symudwyd y gwleidyddion a'i staff i lefydd diogel. Bu farw un fenyw yn y gwrthdaro gyda'r heddlu a thri person arall o “argyfyngau meddygol”. [6]

Yn ddiweddarach, wedi i'r heddlu a swyddogion arfog gael y sefyllfa dan reolaeth, dychwelodd y gwleidyddion i'r Gyngres, gan gyfri gweddill y pleidleisiau a chymeradwyo etholiad Joe Biden fel yr Arlywydd nesaf. [7]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Linskey, Annie (June 9, 2020). "Biden clinches the Democratic nomination after securing more than 1,991 delegates" .
  2. Kamala Harris yn derbyn enwebiad y Democratiaid i herio’r Gweriniaethwyr , Golwg360, 20 Awst 2020. Cyrchwyd ar 5 Tachwedd 2020.
  3. Joe Biden gam yn nes at hawlio buddugoliaeth yn yr etholiad arlywyddol , Golwg360, 5 Tachwedd 2020. Cyrchwyd ar 7 Tachwedd 2020.
  4. Joe Biden yw enillydd ras arlywyddol yr Unol Daleithiau , Golwg360, 7 Tachwedd 2020.
  5. Biden becomes first presidential candidate to win more than 80 million votes (en) , CNN, 25 Tachwedd 2020. Cyrchwyd ar 26 Tachwedd 2020.
  6. Washington: Pedwar wedi marw mewn protestiadau treisgar gan gefnogwyr Trump , Golwg360, 7 Ionawr 2021.
  7. Donald Trump yn addo “trosglwyddiad trefnus” o’r awenau i’r darpar Arlywydd Joe Biden , Golwg360, 7 Ionawr 2021.

Dolenni allanol

golygu
Cyngres yr Unol Daleithiau
Rhagflaenydd:
J. Caleb Boggs
Seneddwr dros Delaware
gyda William V. Roth , Thomas R. Carper

1973 ? 2009
Olynydd:
Ted Kaufman
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Dick Cheney
Is-Arlywydd Unol Daleithiau America
20 Ionawr 2009 ? 20 Ionawr 2017
Olynydd:
Mike Pence
    Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes . Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato .