Asiantaeth
sydd yn gyfrifol am gasglu a dadansoddi
cudd-wybodaeth
dramor ar gyfer llywodraeth ffederal
Unol Daleithiau America
yw'r
CIA
(
Saesneg
:
Central Intelligence Agency
, yn Gymraeg
Asiantaeth Gwybodaeth Ganolog
).
[1]
Cesglir gwybodaeth ledled y byd, yn bennaf drwy ddefnyddio
cudd-wybodaeth ddynol
(HUMINT), a chaiff ei phrosesu a'i dadansoddi gan arbenigwyr y CIA yn ei bencadlys yn
Langley, Virginia
, ger y brifddinas
Washington, D.C.
, ac mewn adrannau ar draws yr Unol Daleithiau a'r byd. Y CIA yw un o brif gyrff "y Gymuned Gudd-wybodaeth" Americanaidd, ac felly mae'n adrodd i'r Cyfarwyddwr dros Gudd-wybodaeth Genedlaethol ac yn canolbwytio yn bennaf ar ddarparu gwybodaeth i'r
Arlywydd
a'r Cabinet.
Sel y CIA.
Nid yw'r CIA yn wasanaeth diogelwch gwladol megis yr
FBI
, ac felly nid oes ganddo ddyletswydd i orfodi'r gyfraith nac i weithredu fel heddlu tu mewn i ffiniau'r Unol Daleithiau. Dim ond ychydig o hawl ac adnoddau sydd gan y CIA i gasglu cudd-wybodaeth yn fewnwladol. Er nad yw'n unigryw wrth arbenigo mewn HUMINT, mae'r CIA yn gweithio i gydlynu a rheoli'n genedlaethol gweithgareddau HUMINT yr holl Gymuned Gudd-wybodaeth. Y CIA yw'r unig asiantaeth a chanddi'r hawl gyfreithlon i weithredu ac arolygu
ymgyrchoedd cudd
mewn gwledydd eraill ar orchymyn yr arlywydd.
[2]
[3]
[4]
[5]
Defnyddia adrannau tactegol, megis y
Special Activities Division
, i ddylanwadu ar wleidyddiaeth mewn gwledydd eraill.
[6]
Ymgododd y CIA o'r
Office of Strategic Services
(OSS), asiantaeth a gyd-drefnodd
ysbio
,
propaganda
, ac ymgyrchoedd cudd eraill megis "tanseilio'r gelyn" ar gyfer
Lluoedd Arfog yr Unol Daleithiau
yn ystod
yr Ail Ryfel Byd
. Sefydlwyd y CIA gan Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 1947. Yn ystod
y Rhyfel Oer
, y CIA oedd un o brif arfau'r Unol Daleithiau yn erbyn
yr Undeb Sofietaidd
a'r byd
comiwnyddol
. Mae tystiolaeth bendant o ran y CIA mewn sawl achos o ymyrraeth dramor, gan gynnwys disodli'r llywodraethau yn Iran (1953), Gwatemala (1954), a
Chile (1973)
, ac mewn cefnogi unbenaethau a llywodraethau gormesol, a masnachu cyffuriau a gwerthu arfau. Er cwymp yr Undeb Sofietaidd ar ddechrau'r 1990au, mae'r CIA wedi ehangu ei swyddogaeth yn fwyfwy ers diwedd y Rhyfel Oer, gan gynnwys ymgyrchoedd
parafilwrol
cudd.
[7]
Ar droad y ganrif, symudodd canolbwynt y cyrff diogelwch cenedlaethol i
derfysgaeth
, ac hynny'n llwyr yn sgil
ymosodiadau 9/11
. Gwelid yr ymosodiad hwnnw yn fethiant cudd-wybodaeth gan yr holl Gymuned Gudd-wybodaeth, a'r CIA yn enwedig. Gwnaed ymdrechion i wella arferion yr asiantaethau wrth gydlynu cudd-wybodaeth, a rhoddwyd rhagor o gyllideb ac adnoddau iddynt ym maes
gwrth-derfysgaeth
. Cyn Deddf Diwygo Cudd-wybodaeth ac Atal Terfysgaeth 2004, bu Cyfarwyddwr y CIA ar y cyd yn bennaeth ar y Gymuned Gudd-wybodaeth; bellach, mae'r Cyfarwyddwr dros Gudd-wybodaeth Genedlaethol (DNI) yn uwch na'r CIA yn y gadwyn awdurdod. Er gwaethaf i'r corff drosglwyddo peth grym i'r DNI, mae'r CIA wedi tyfu ers 9/11. Yn ol
The Washington Post
, y CIA oedd piau'r gyllideb uchaf o holl asiantaethau'r Gymuned Gudd-wybodaeth yn y flwyddyn 2010.
[7]
[8]
Yn ddiweddar mae un o'i adrannau mwyaf, yr
Information Operations Center
(IOC), wedi dechrau canolbwyntio ar
seiber-ryfela
yn fwy na therfysgaeth fel bygythiad i UDA.
[9]
Nodai ambell llwyddiant yn hanes diweddar y CIA, yn enwedig darganfod lleoliad
Osama bin Laden
, ond cyhuddai'r asiantaeth yn ffyrnig am ei weithgareddau sy'n groes i gyfraith ryngwladol a deddfau rhyfel megis
extraordinary rendition
ac
artaith
.