Pensaer
o Loegr oedd
Syr Christopher Wren
(
20 Hydref
1632
?
25 Chwefror
1723
). Ei waith enwocaf yw
Eglwys Gadeiriol Sant Paul
yn
Llundain
. Cynlluniodd oddeutu 52 o eglwysi yn
Ninas Llundain
yn dilyn
Tan Mawr Llundain
yn 1666, a chaiff ei gyfrif ymhlith pensaeri mwyaf Lloegr.
[1]
Christopher Wren
|
---|
|
Ganwyd
| 20 Hydref 1632 (yn y
Calendr Iwliaidd
)?
East Knoyle?
|
---|
Bu?farw
| 25 Chwefror 1723 (yn y
Calendr Iwliaidd
)?
Llundain
|
---|
Man?preswyl
| Rhydychen
|
---|
Dinasyddiaeth
| Teyrnas Lloegr
,
Teyrnas Prydain Fawr
|
---|
Alma?mater
| |
---|
Galwedigaeth
| pensaer
, seryddwr,
mathemategydd
, ffisegydd, anatomydd, academydd,
gwleidydd
, cynlluniwr trefol?
|
---|
Swydd
| Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1685-87 Parliament, Member of the 1689-90 Parliament, Member of the 1690-95 Parliament, Aelod o Senedd 1701-02, llywydd y Gymdeithas Frenhinol?
|
---|
Cyflogwr
| |
---|
Adnabyddus?am
| St Clement Danes, All-Hallows-the-Great, Marlborough House, St Mary Aldermary,
Eglwys Gadeiriol Sant Pawl
, Ysbyty Greenwich, Ysbyty Brenhinol Chelsea, Palas Hampton Court, Palas Kensington, Old Royal Naval College?
|
---|
Tad
| Christopher Wren?
|
---|
Priod
| Faith Coghill, Jane FitzWilliam?
|
---|
Plant
| Christopher Wren Jr, Jane Wren, William Wren?
|
---|
Gwobr/au
| Marchog Faglor?
|
---|
Ystyrir y
Coleg Morwrol Brenhinol, Greenwich
hefyd ymhlith ei waith enwocaf a
Phalas Hampton Court
.
Fe'i traethwyd mewn
Lladin
a gwaith
Aristoteles
ym
Mhrifysgol Rhydychen
lle astudiodd hefyd
anatomeg
,
seryddiaeth
,
mathemateg
ac, wrth gwrs,
pensaerniaeth
. Canmolwyd ei waith gwyddonol gan
Isaac Newton
a
Blaise Pascal
.
Fe'i ganed yn East Knoyle yn
Wiltshire
, yn unig fab a oroesodd ei blentyndod; roedd ei dad o'r un enw: Christopher Wren (1589?1658) yn
offeiriad
ac enw ei fam oedd Mary Cox cyn iddi briodi. Pan aned Christopher ar
20 Hydref
1632
(391?blynedd yn ol), roedd ei dad yn offeiriad yn East Knoyle, cyn iddo gael ei ddyrchafu'n Ddeon Windsor yn 1635. Pan fu farw tad ei fam, etifeddodd y teulu cryn dipyn o arian.
[2]
Fe'i addysgwyd gartref gan ei dad a chan diwtor preifat. Ar 25 Mehefin 1650, cychwynodd ei addysg yng
Ngholeg Wadham, Rhydychen
.