한국   대만   중국   일본 
Buzz Aldrin - Wicipedia

Mae Buzz Aldrin (sef Edwin Eugene Aldrin, Jr. , ganwyd 20 Ionawr 1930 ) yn enwog am fod yr ail ddyn i gerdded ar y Lleuad . Glanodd Aldrin ar y Lleuad gyda Neil Armstrong ar 20 Gorffennaf 1969, fel rhan o'r perwyl ofod Apollo 11 . Hedfanodd i'r gofod dwywaith, unwaith yn Gemini 12 (1966), ac eto ar Apollo 11 yn 1969. Ar ol dychwelyd o'r Lleuad, gadawodd Aldrin NASA , a dioddefodd o iselder , ond derbynodd driniaeth effeithiol. [1] Mae'n awdur saith o lyfrau ar y gofod.

Buzz Aldrin
Aldrin yng Ngorffennaf 1969

Gofodwr NASA
Cenedligrwydd Americanwr
Statws Wedi ymddeol
Ganed Edwin Eugene Aldrin Jr.
( 1930-01-20 ) 20 Ionawr 1930 (94?oed)
Ysbyty Mountainside, Montclair, New Jersey , U.D.A.
Swyddi arall
Peilot-ymladdwr
Academi filwrol yr Unol Daleithiau, B.S. 1951
Massachusetts Institute of Technology , Sc.D. 1963
Rheng Cyrnol, USAF
Amser yn y gofod
12 diwrnod 1 awr a 52 munud
Dewiswyd 1963 NASA Gr?p 3
Cyfanswm EVA
4
Cyfanswm amser EVA
7 awr 52 munud
Teithiau Gemini 12 , Apollo 11
Bathodyn taith
Ymddeoliad 1 Gorffennaf 1971
Gwobrau United States Air Force Master Pilot/Astronaut Wings Medal Ryddid Arlywyddol
Gwefan buzzaldrin.com

Ganed ef yn Montclair, New Jersey , ac astudiodd ym Massachusetts Institute of Technology .

Yn 2009, dywedodd na chredai fod dyn yn cael effaill newid yn hinsawdd y Ddaear:

"I think the climate has been changing for billions of years. If it's warming now, it may cool off later. I'm not in favor of just taking short-term isolated situations and depleting our resources to keep our climate just the way it is today. I'm not necessarily of the school that we are causing it all, I think the world is causing it." [2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Aldrin, Buzz (2009). Magnificent Desolation: The Long Journey Home from the Moon . Harmony.
  2. Aldrin, Buzz (2009-07-03). "Buzz Aldrin calls for manned flight to Mars to overcome global problems" . The Daily Telegraph . Cyrchwyd 2011-01-07 .