Eglwys fawr gyda
phensaerniaeth Gothig
ydy
Eglwys Golegol San Pedr yn Westminster
, sy'n fwy adnabyddus o dan yr enw
Abaty Westminster
(
Saesneg
:
Westminster Abbey
). Fe'i lleolir yn
Westminster
,
Llundain
, ychydig i'r gorllewin o
Balas San Steffan
. Dyma safle traddodiadol
coroni
a chladdu brenhinoedd Lloegr.
Cychwynnwyd ar y gwaith o godi'r Abaty presennol ym 1245 gan
Harri III, brenin Lloegr
a ddewisodd y safle gyda golwg ar fan i'w gladdu wedi ei farwolaeth.
[1]
Ymhlith y rhai a gladdwyd neu a goffawyd yno y mae: Syr
Winston Churchill
,
Oliver Cromwell
,
Charles Darwin
,
Charles Dickens
,
Benjamin Disraeli
,
Gabriel Goodman
(o Ruthun),
Georg Friedrich Handel
,
David Livingstone
a
William Shakespeare
.
Ynghyd a
Palas San Steffan
ac
Eglwys Santes Marged, Westminster
, sy'n sefyll ar yr un safle o arwyddocad hanesyddol a symbolaidd ger Afon Tafwys, mae'r Abaty ar restr
UNESCO
o
Safleoedd Treftadaeth y Byd
ers
1987
.
[2]
Mae'r enw 'Abaty San Steffan', a welir weithiau, yn anghywir. Mae
Palas San Steffan
(Saesneg:
Palace of Westminster
) yn cael ei enwi yn y Gymraeg ar ol capel San Steffan lle bu'r
T? Cyffredin
yn eistedd rhwng 1547 a 1834, ac sydd bellach yn neuadd a mynedfa gyhoeddus i'r Palas.
Pedr
, nid
Steffan
, yw nawddsant yr abaty. 'Westminster', felly, sy'n gywir ar gyfer yr abaty a’r
ardal y mae’n sefyll ynddi
(ac yn wir enw anffurfiol ar gyfer yr abaty oedd 'Westminster' yn wreiddiol); y palas a'r senedd sy'n cyfarfod yno yw 'San Steffan'.
Yn 1482, wedi i
Richard III, brenin Lloegr
gipio coron Lloegr oddi wrth
Edward V
a oedd ar y pryd yn ddim ond 12 mlwydd oed, ffodd mam Edward,
Elizabeth Woodville
am ei bywyd gan hawlio lloches, gyda'i merch
Elisabeth o Efrog
ac eraill o'i theulu, yn Abaty Westminster. Bu yno am rai misoedd; yn y cyfamser, roedd y brenin newydd yn awyddus iawn i'w hatal rhag cysylltu gyda
Harri Tudur
yn
Llydaw
, ac yn awyddus i'w cloi yn
Nh?r Llundain
. I'r perwyl hwn, amgylchynodd Richard yr abaty gyda llu o'i filwyr gorau i atal neb rhag mynd i mewn nag allan. Roedd mam Harri Tudur,
Margaret Beaufort
yn awyddus i gysylltu gydag Elizabeth, a oedd i bob pwrpas yn garcharor yn yr abaty. Meddyg Elizabeth Woodville a'i theulu oedd y
Lancastriad
pybyr
Lewis o Gaerleon
, a heriodd farwolaeth sawl tro yn cludo negeseuon o'r naill at y llall, gan gyd-drefnu priodas Harri ac Elisabeth o Efrog. Mae'n debyg mai dyma pam y gwobrwywyd ef yn ariannol, wedi i Harri ladd Richard ym
Mrwydr Bosworth
.