EVANS, JOHN (c. 1680 - 1730), gweinidog Presbyteraidd a diwinydd
Enw:
John Evans
Dyddiad geni:
c. 1680
Dyddiad marw:
1730
Rhiant:
Katherine Powell (née Gerard)
Rhiant:
John Evans
Rhyw:
Gwryw
Galwedigaeth:
gweinidog Presbyteraidd a diwinydd
Maes gweithgaredd:
Crefydd
Awdur:
Arthur Herbert Dodd
Mab
John Evans
(1628 - 1700) a Katherine, gweddw
Vavasor Powell
a merch y cyrnol Gilbert Gerard, rheolwr castell Caer dros Siarl I. Ganed y mab yn Wrecsam. Cafodd ei addysg yn ysgolion yr Anghydffurfwyr yn Newington Green a Rathmell (swydd Efrog), a bu'n astudio gwaith y tadau cynnar o dan
James Owen
, Croesoswallt. Daeth yn gaplan i Mrs. Rowland Hunt, Boreatton, Swydd Amwythig, ac ychydig cyn marw ei dad aeth i'w gynorthwyo i ofalu am yr ' Old Meeting ' (Annibynwyr a Bedyddwyr) yn Wrecsam. Gwahoddwyd ef gan y cynulliad i ddilyn ei dad; mynnai ef iddynt gytuno i gael gan y ' New Meeting ' (y Presbyteriaid) uno â'r ' Old Meeting,' a phan welwyd na wneid mo hyn ymddengys iddo dderbyn galwad a gafodd gan y ' New Meeting.' Ordeiniwyd ef yn Wrecsam ar 18 Awst 1702 - yr oedd
Matthew Henry
, Caer,
James Owen
, Croesoswallt, a Francis Tallents, Amwythig, ymhlith y rhai a gymerodd ran yn y gwasanaeth ordeinio. Yn 1704 daeth yn fugail cynorthwyol i
Dr. Daniel Williams
yn Hand Alley, Llundain, a phan fu farw
Dr. Williams
yn 1716 dilynodd Evans ef fel bugail. Bu iddo ran amlwg (ar yr ochr 'uniongred') yn y ddadl Ariaidd yn 1719, eithr yr oedd yn wastad yn oddefgar ym mater athrawiaeth. Yr oedd yn un o ymddiriedolwyr y 'Regium Donum' (1723) ac efe a arweiniodd y ddirprwyaeth a aeth i longyfarch Siôr II ar ei esgyniad.
Ysgrifennodd Evans lawer o lyfrau diwinyddol (gweler restr ohonynt yn
D.N.B.
) a chafodd radd D.D. gan Brifysgol Edinburgh - eithr nid gan Aberdeen (fel y dywedir yn
D.N.B.
) na chan Glasgow (fel y dywed Palmer). Casglodd (eithr heb gael byw i'w defnyddio) ddefnyddiau hanes Piwritaniaeth - y mae rhai ohonynt yn llyfrgell
Dr. Williams
, Llundain; casglodd hefyd ffigurau ynglyn ag Anghydffurfiaeth o 1717 hyd 1729. Collodd lawer o arian oblegid y ' South Sea Bubble ' (1720), a bu farw, 'but in mean circumstances,' 23 Mai 1730, eithr gadawodd tua 10 mil o lyfrau sydd yn awr yn llyfrgell Dr. Williams, lle y mae ei ddarlun hefyd. Fe'i claddwyd yng nghell gladdu
Dr. Williams
yn Bunhill Fields. Yr oedd ei wraig yn ferch i weinidog a drowyd allan yn 1662.
Awdur
- Yr Athro Emeritus Arthur Herbert Dodd
, (1891 - 1975)
Ffynonellau
- Edmund Calamy,
An historical account of my own life with some reflections on the times I have lived in (1671-1731)
(London 1830)
- A. N. Palmer,
A history of the older nonconformity of Wrexham and its neighbourhood being the third part of 'A history of the town and parish of Wrexham'
(1888)
- Oxford Dictionary of National Biography
, xviii, 65-6
- Archifau LlGC:
NLW MS 11097A
- Llawysgrif Rhual
110
Dolenni Ychwanegol
- VIAF:
16173796
- Wikidata:
Q6232005
Dyddiad cyhoeddi:
1953
Hawlfraint Erthygl:
http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/